|
|
|
Ennill ysgoloriaeth Elain Llwyd yw enillydd Ysgoloriaeth Eisteddfod yr Urdd 2005. |
|
|
|
Disgybl blwyddyn 13 yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, ydi Elain ac yn astudio Cymraeg, Cerdd a Drama.
Mae hi'n ennill yr ysgoloriaeth am ei chyfraniad i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd.
"Hi oedd yn chwarae rhan Eponine yn y perfformiad bythgofiadwy o'r ddrama gerdd Les Miserables," meddai datganiad gan yr Urdd.
"Roedd hi hefyd yn unawdydd yn y cyngerdd agoriadol ysblennydd, Sain Cerdd a Sioe.
"Enillodd y ddeuawd gerdd dant a'r ddeuawd 15-19 oed, daeth yn ail yn yr unawd ac yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Llew, ac roedd yn aelod o g么r cymysg buddugol Ysgol Syr Hugh Owen.
"Bu hefyd yn diddanu'r Eisteddfodwyr drwy berfformio ar lwyfan y Lanfa yng nghyntedd Canolfan Mileniwm Cymru," ychwanegwyd.
Wrth dalu teyrnged iddi dywedodd Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Rydyn ni'n gwerthfawrogi ei hymroddiad cyson i'r mudiad gydol y blynyddoedd, ac eleni yn arbennig mae ei chyfraniad i lwyddiant yr Eisteddfod wedi bod yn ysgubol. Dwi'n si诺r bod gyrfa ddisglair o'i blaenl."
Mae Elain yn ennill gwaddol Cronfa Sim Davies; Cronfa Butlins; Cronfa Goffa John Emlyn Thomas, Betws; Cronfa Goffa W.D. Lewis; Cronfa Goffa John Morris; Cronfa Goffa John Haydn ac Ethel Maud Thomas; Cronfa Henry, Elizabeth, Elfed ac Olwen Williams a Chronfa Goffa D.J. Harries, sy'n siec o 拢563.
|
|
|
|
|
|