大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Gwenno Mair Davies Anrhydeddu Gwenno yn ei bro
Dathliad i'r ferch amddifadwyd o seremoni goroni
Tudur Aled, William Salesbury, Henry Rees, Gwilym Hiraethog a Iorwerth Glanaled yw'r enwau a gerfiwyd ar gofgolofn yn sgw芒r pentref Llansannan.

Ond yr wythnos diwethaf yr oedd rhywun wedi ychwanegu enw newydd uwchben y rhestr hon ar gofgolofn enwog Syr Goscombe John i anrhydeddu enwogion y fro.

Enw Gwenno Mair Davies - y ferch a enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd 2005 - ond na chafodd ei choroni yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Ac ar yr arwydd ffordd yn dynodi eich bod wedi cyrraedd Llansannan yr oedd rhywun hefyd wedi ychwanegu'r geiriau "Cartref Gwenno, Enillydd Coron yr Urdd".

Rhan o'r gynulleidfa A nos Iau, Mehefin 23, daeth cymuned at ei gilydd i longyfarch ac anrhydeddu Gwenno gan lenwi Canolfan Bro Aled.

Methu disgwyl
Ac yr oedd y croeso a'r edmygedd i lenor ymhlith ei phobl ei hun yn si诺r o fod yn rhagori ar unrhyw beth y gallai Canolfan y Mileniwm ei gynnig.

Eglurodd Alwyn Williams, arweinydd y noson, mai ym mis Medi y bydd yr Urdd yn coroni Gwenno yn swyddogol a rhoi "y sylw cenedlaethol dyledus iddi" ond na allai trigolion Llansannan ddisgwyl tan hynny i'w llongyfarch.

Er gwaethaf yr helyntion yngl欧n a'r Goron eleni dywedodd fod Gwenno "yn ferch deilwng iawn ohoni" fel y dangosai sylwadau'r beirniaid.

Cyfarchion y beirdd
A chydag Ann, mam Gwenno, yn gapten t卯m Talwrn y beirdd Llansannan doedd dim prinder prydyddion i longyfarch y teilyngdod hwnnw ac yn eu plith ei hewythr, Emrys Williams, a oedd, meddai, gyda Gwenno yn gwylio seremoni'r coroni yng Nghaerdydd.

"Y drasiedi fwyaf yw i Gwenno gael ei hamddifadu o gofio codi yn y pafiliwn mawr i gymeradwyaeth y gynulleidfa yno," meddai.

Talwyd teyrnged i Gwenno hefyd gan gyn athrawes o Ysgol y Creuddyn a gyfeiriodd at aeddfedrwydd mynegiant a threiddgarwch yn ei sgrifennu ers yn blentyn ifanc iawn.

Ffermwyr ifaincCymerwyd rhan hefyd gan g么r ffermwyr ieuanc yr ardal yn canu, O, mae;r goron ar dy ben a Ch么r Bro Aled yn canu I bob un sy'n Ffyddlon "oherwydd bod yna dair coron" yn yr emyn hwnnw!

Ac ar noson fel hon doedd neb yn mynd i anghydweld pan ddywedwyd:
"Hei lwc yr enilli di eto y flwyddyn nesaf - mewn modd llai dramatig."

Cliciwch i weld lluniau o'r noson.



Hefyd:





About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy