大象传媒

Cyfeiriad y mudiant

Y rheol llaw chwith

Defnyddia reol llaw chwith Fleming i gofio cyfeiriad y mudiant mewn modur trydanol. Mae鈥檙 diagram canlynol yn ei dangos hi.

Mae fy MynegfyS yn pwyntio i gyfeiriad y MaeS magnetig. Mae fy mys Canol yn pwyntio i gyfeiriad y Cerrynt ac mae ar ongl sgw芒r i'r maes. Mae fy MawD yn pwyntio i gyfeiriad y MuDiant. Cofia ddefnyddio dy law chwith, nid dy law dde. I gofio鈥檙 rheol llaw chwith, gan ddal dy law chwith allan, cofia ddweud hyn wrth dy hun.

Diagram o reol llaw chwith Fleming. Mae鈥檙 bawd yn pwyntio i gyfeiriad y mudiant. Mae鈥檙 mynegfys yn pwyntio i gyfeiriad y maes magnetig. Mae鈥檙 bys canol yn pwyntio i gyfeiriad y cerrynt.
Figure caption,
Rheol llaw chwith Fleming

Yr effaith modur

Mae gwifren neu goil sy'n cludo cerrynt yn gallu rhoi grym ar fagnet parhaol. Yr enw ar hyn yw鈥檙 effaith modur. Gallai'r wifren hefyd roi grym ar wifren neu goil arall cyfagos sy'n cludo cerrynt.

Os yw'r wifren sy'n cludo cerrynt yn cael ei rhoi mewn maes magnetig (sydd 芒 llinellau grym ar ongl sgw芒r i'r wifren), bydd yn profi grym sydd ar ongl sgw芒r i gyfeiriad y cerrynt ac i linellau'r maes magnetig.

Diagram yn dangos gwifren yn cludo cerrynt ar onglau sgw芒r i鈥檙 maes magnetig. Dangosir fod cyfeiriad y grym ar onglau sgw芒r i鈥檙 cerrynt a鈥檙 maes magnetig.

Mae'r grym yn cynyddu os yw cryfder y maes magnetig a/neu y cerrynt yn cynyddu.