Os oes cerrynt trydanol yn llifo mewn gwifren, bydd grym yn gweithredu arni a'i symud. Mae troelli magnet mewn coil o wifren yn cynhyrchu trydan. Mae newidyddion yn newid maint folteddau eiledol.
Gallwn ni adeiladu modur trydanol syml gan ddefnyddio coil o wifren sy'n rhydd i gylchdroi rhwng dau b么l magnetig dirgroes. Os oes cerrynt trydanol yn llifo drwy'r coil, mae鈥檙 coil yn profi grym ac mae'n symud.
Rhaid gwrthdroi cyfeiriad y cerrynt bob hanner tro, neu bydd y coil yn stopio eto. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy ddefnyddio cylch dargludo wedi'i hollti'n ddau, sef modrwy hollt neu gymudadur. Rydyn ni'n defnyddio coil gwifren 芒 llawer o droeon ynddo i gynyddu effaith y maes magnetig.
Mae seinyddion yn cynnwys magnet parhaol ac electromagnet. Mae p么l positif yr electromagnet yn cael ei atynnu at b么l negatif y magnet. Mae hyn yn tynnu coil y seinydd at y magnet. Pan mae cyfeiriad y cerrynt yn yr electromagnet wedi'i wrthdroi, mae p么l negatif yr electromagnet nawr yn gwrthyrru p么l negatif y magnet, gan symud y coil oddi wrth y magnet. Mae鈥檙 coil wedi'i gysylltu 芒 ch么n y seinydd, sy'n symud gydag ef gan greu dirgryniadau yn yr aer o flaen y seinydd. Dyma'r s诺n rydyn ni'n ei glywed.