Generaduron
Pan mae gwifren yn cael ei symud ym maes magnetig generadurDyfais sy鈥檔 trawsnewid egni cinetig yn egni trydanol., mae'r symudiad, y maes magnetig a'r cerryntLlif o wefrau, er enghraifft, electronau sy鈥檔 symud drwy wifren fetel. i gyd ar ongl sgw芒r i'w gilydd. Os yw'r wifren yn cael ei symud i'r cyfeiriad dirgroes, mae'r cerrynt anwytholGan achosi neu wneud i rywbeth ddigwydd. Mae gwahaniaeth potensial yn cael ei achosi neu ei anwytho pan mae coil o wifren yn symud mewn maes magnetig. hefyd yn symud i'r cyfeiriad dirgroes.
Mewn generadur, mae un ochr coil yn symud i fyny yn ystod un hanner tro ac yna i lawr yn ystod yr hanner tro nesaf.
Mae hyn yn golygu, wrth i goil gael ei gylchdroi mewn maes magnetig, bod y cerrynt anwythol yn newid cyfeiriad bob hanner tro. Yr enw ar hyn yw cerrynt eiledol (c.e.).
Mae'n wahanol i'r cerrynt union (c.u.) sy'n cael ei gynhyrchu gan fatri sydd yn llifo i'r un cyfeiriad bob amser.
Fel rheol mewn generadur, mae'r coil yn sefydlog ac wedi'i fowntio y tu allan i'r magnet, a'r magnet sy'n symud.
Gallwn ni gynyddu maint y folteddGwahaniaeth potensial cell, cyflenwad trydanol neu gydran drydan. Mae鈥檔 cael ei fesur mewn foltiau, 鈥榁鈥. anwythol drwy wneud y canlynol:
- cylchdroi'r coil neu'r magnet yn gyflymach
- defnyddio magnet 芒 maes magnetig cryfach
- rhoi mwy o droeon yn y wifren yn y coil
- rhoi craidd haearn yn y coil
Mae trydan y prif gyflenwad yn gyflenwad c.e. Mae'r foltedd mae'n ei gyflenwi i'n cartrefi tua 230 V (folt).