大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Nia o San Cler yng nghwmni ei dosbarth yn Ysgol Wamato yn Tanzania Nia yn Tanzania
Chwefror 2008
Ar 么l gorffen cwrs ysgol, 'roedd gan Nia Jones o San Cl锚r awydd cryf i wneud gwaith gwirfoddol, a phenderfynodd fynd i Affrica.

Ar ddechrau mis Hydref 2007, cychwynnodd o Faes Awyr Heathrow a chyrraedd Dar-el-salam yn ddiogel.

Roedd taith bellach i'w wneud cyn cyrraedd y llety yn Bahari Beach, ond cafodd groeso mawr, a rhyw ddeg yno tua'r un oedran, yn gwneud yr un peth 芒 hithau.

Ei gwaith, yn ddyddiol, oedd mewn ysgol yn Wamato. Roedd wedi cario cymaint ag a fedrai o gop茂au, pensiliau, biros, llyfrau pwrpasol ac yn y blaen, i'r ysgol ac roedd pawb mor ddiolchgar a gwerthfawrogol o bopeth.

Roedd yr ysgol bellter o'r llety - gwaith cerdded am rhyw ugain munud, yna cael bws neu feic am tua deugain munud, yna cerdded am hanner awr. Cyrraedd Wamato yn y bore a dysgu Saesneg i blant o ddeuddeg oed hyd bedair ar bymtheg. Plant amddifad a phlant y strydoedd oeddynt bob un, a phawb 芒 chymaint o awydd ac awch am ddysgu. Roedd y cyfan yn ddiddorol iawn - pawb mor groesawgar a charedig o dan amgylchiadau anodd iawn.

Cafodd wahoddiad i'w cartrefi, a byddai yn anghwrtais i wrthod oherwydd roeddent mor barod i rannu yr hyn oedd ganddynt. Gwnaeth gyfeillion a ffrindiau newydd o amryw o wledydd ac maent yn awyddus i gadw mewn cysylltiad yn y blynyddoedd i ddod.

Roedd y penwythnos yn rhydd, felly 'roedd cyfle i' w ffrindiau a hithau gael amser braf i ymlacio, rhan amlaf ar draeth arbennig o brydferth o'r enw Kenduchi. Profiad anhygoel arall oedd un penwythnos ar Safari ym Mharc Cenedlaethol Ruaha. Aeth pedair ohonynt a thywysydd o'r enw Deo, mewn cludiant arbennig, dros dri chant wyth deg o filltiroedd i'w gyrraedd - taith tua naw awr, ond y cyfan yn werth chweil!

Mae ganddi ddegau o luniau diddorol iawn o bob math o anifeiliaid gwyllt, a' u gweld o hyd braich - un eliffant, un tro, yn rhy agos i fod yn gysurus, ond yr oedd yn brofiad nad aiff byth yn angof.

Pan ddaeth yn amser ymadael, nid oedd yn rhwydd. Cafodd barti ffarwel ac mae ganddi luniau ohoni a'r disgyblion yn drist o weld 'Teacharia' yn ymadael. Daeth ei thymor i ben a rhaid oedd troi am adref a chyrraedd erbyn y Nadolig. Roedd y cyfan yn brofiad arbennig iawn, ac mae'n ddiolchgar iawn ei bod wedi cael y cyfle i wneud y gwaith mewn lle mor ddifreintiedig ond gwerthfawrogol iawn.

Erbyn hyn mae Nia allan o Gymru unwaith eto, yn wynebu Awstralia, yna ymlaen i Seland Newydd, yna gweithio'i ffordd n么l i'r Unol Daleithiau, cyn setlo i lawr yng Nghymru, ymhen rhyw chwe mis.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy