大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Merched Beca yn ymosod ar iet Ail Greu Hanes Beca ym Mhwlltrap
Rhagfyr 2002
Trefnwyd noson o adloniant i lansio Prosiect Bro Beca ar Dachwedd 22, ym Mhwlltrap. Ail grewyd digwyddiad hanesyddol, pwysig a gwahoddwyd pawb i chwarae rhan un o Ferched Beca

Roedd ail gread yn ddehongliad gwirioneddol o ddigwyddiad a ddigwyddodd dim ond rhai cenedlaethau yn 么l. Bron 160 o flynyddoedd yn 么l ir diwrnod, dinistriwyd y dollborth ym Mhwlltrap, gan Ferched Beca.

Roedd y lawnsiad yn angenrheidiol er mwyn dathlu'r brwdfrydedd ac ymrwymiad ardderchog y mae cymunedau Sir Gaerfyrddin wedi ddangos i gadw diwylliant bywiol ac hanesyddol Beca yn fyw.

Bywyd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro 160 o flynyddoedd yn 么l sut beth oedd hi bryd hynny?
Yn ystod y 1830au a'r 1840au cynnar, roedd bywyd yn galed i'r ffermwyr bach a'r llafurwyr amaethyddol roedd rhent yn uchel, roedd prisiau amaethyddol yn cwympo, ac roedd drwgdeimlad yn erbyn deddfau newydd Cyfraith y Tlawd.

Aeth bywyd yn galetach gyda gwelliannau i'r ffyrdd tyrpeg a phroses llymach o gasglu arian tollbyrth. Roedd sawl Ymddiriedolaeth Tyrpeg bychain yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, pob un yn rheoli ac yn gweithredu eu tollbyrth eu hunain.

Yn yr ardal rhwng Arberth a San Cl锚r, roedd y rhan fwyaf o'r ffyrdd yn berchen ir Ymddiriedolaethau Main a Hendygwyn ar Daf.

Dechreuwyd defnyddio'r clwydi wrth i dymor cludo calch ddechrau, ac roedd drwgdeimlad mawr ymysg y ffermwyr, wedi iddynt ddioddef yn eithafol ar 么l cyfres o gynaeafau gwael.


Tom Carnabwth (Ray Gravelle) yn annog Merched Beca!
Tom Carnabwth (Ray Gravelle) yn annog Merched Beca!
Y Terfysgoedd yn dechrau
Ar y noson o Fai 13, 1839, llai nag wythnos ar 么l iddi agor, dinistriwyd y glwyd yn Efailwen a llosgwyd dollborth. Roedd pob person wedi cudd - wisgo, a rhai wedi gwisgo mewn dillad merched au wynebaun ddu.

Cyfeiriwyd at yr arweinydd fel Beca; pwy bynnag oedd hi, cafwyd buddugoliaeth ysgubol a gorchmynnwyd i Ymddiriedolaeth Hendygwyn- ar-Daf i bedair o'r clwyd i gael eu datgymalu ar unwaith. Felly ganwyd chwedl Merched Beca.

Y Terfysgoedd yn lledu
Gwelwyd mwy o derfysgoedd rhwng 1842 3 y tro hwn yn dechrau yn San Cl锚r. Yma gerllaw cyffyrdd yr Ymddiriedolaethau Main a Hendygwyn-ar-Daf, gorfodwyd ffermwyr, porthmyn gwartheg a theithwyr eraill i dalu ddwy waith, o fewn milltir, fel canlyniad i glwyd newydd a adeiladwyd er mwyn atal osgoi talu treth.

Ar y 18fed o Dachwedd ym 1842, Fe wnaeth Beca a'i merched ddinistrio'r clwydi ym Mhwlltrap a San Cl锚r.

Erbyn hyn roedd y terfysgoedd wedi lledu'n gryf. Doedd dim prinder o bobol yn fodlon chwarae r么l Beca, a dim prinder o ddilynwyr chwaith. Cafodd sawl clwyd ei dinistrio dros Sir Benfro, er enghraifft, yn Prendregast gerllaw Hwlffordd, Arberth, Robeston Wathen a Scleddau gerllaw Abergwaun.

Hefyd lledodd y terfysg i ddyffrynnoedd Teifi a'r Tywi ac ymhen amser, i'r ardaloedd lled-ddiwydiannol o Sir Gaerfyrddin.

Allan o lyfr Pembrokeshire gan Bryan John.Cyhoeddiad cyntaf gan David Charles, Publishers 1976.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy