大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Y grwp Ha Kome Noson Gymreig yn Arberth
Gorffennaf 2005
Daeth nifer dda o drigolion Arberth a'r pentrefi cyfagos i Noson Gyhoeddus a gynhaliwyd ar Nos Iau, 19eg Mai, 2005 yng Nghanolfan Bloomfield, Arberth.

Nod y noson oedd lansio gwaith Menter Iaith Sir Benfro yn yr ardal er mwyn sicrhau dyfodol yr iaith a'r diwylliant yn y fro ac i gefnogi'r syniad o agor swyddfa rhan amser yn y dref yn wythnosol. Cafwyd cychwyn dda i'r noson yng nghwmni gr诺p ifanc o ddisgyblion Ysgol y Preseli sef Ha Kome yn chwarae wrth i bawb gyrraedd ac yna cyfle i flasu caws a gwin - y caws yn lleol o Lanboidy, Pant Mawr a Llanddewi Brefi a baratowyd gan Shumana Palit o siop Ultracmida yn Arberth.

Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan Mr Martin Lloyd a oedd yno fel Cadeirydd y Fenter Iaith a hefyd fel Prifathro Ysgol y Preseli. Yn dilyn cyflwyniad i'r noson ganddo gwahoddwyd Mrs Edna Davies, Prifathrawes Ysgol Gynradd Arberth - ysgol sydd yn gategori A/C gyda mwy o blant bellach yn y ffrwd Gymraeg nag yn yr un Saesneg. Fel rhan o'i chyflwyniad gwahoddodd dair o famau'r plant i siarad ac i s么n am y rhesymau dros iddynt benderfynu rhoi eu plant yn yr Uned Gymraeg a braf oedd clywed y byddent yn argymell i unrhyw un wneud yr un dewis a hwythau.

Mae'n cymryd tipyn o ymddiriedaeth yn yr athrawon o ran y rhieni wrth iddynt dewis addysg i'w plant mewn iaith sydd yn estron iddyn nhw. Yna gofynnwyd i Mrs Eirlys Davies i ddod ymlaen. Mae hithau wedi cyflawni gwaith mawr gyda Mudiad Ysgolion Meithrin y Sir a siaradodd yn ei ffordd unigryw ei hun am waith y Mudiad ac am y pwysigrwydd o roi sail gadarn i blant yn gynnar yn eu bywydau.

Ar hyd yr un llinellau siaradodd Donna Maiden o Brosiect TWF. Mae TWF yn brosiect a ariennir gan Fwrdd yr laith Gymraeg sydd yn cynnig cymorth i rieni fagu eu plant yn ddwyieithog. Mae Donna sydd yn byw yn Noc Penfro a sydd wedi dysgu'r iaith yn rhugl newydd ddechrau ar ei swydd fel Swyddog Maes TWF yn ne'r sir. Cafwyd un ymwelydd annisgwyl ar ddechrau'r noson sef Nia Parry, wyneb cyfarwydd ar S4C fel cyflwynydd y rhaglen Welsh in a Week' sef rhaglen yn ymwneud 芒 dysgu Cymraeg. Roedd Nia'n digwydd bod yn aros yn Arberth gan ei bod yn ffilmio tuag at gyfres arall o'r rhaglen yn yr ardal ac wedi gweld fod yna gyfarfod ymlaen a throi i fewn. Diolch iddi am ei pharodrwydd i ddweud gair ar y funud olaf am ei gwaith.

Meddai: "cefais fy nghalonogi yn fawr yn y noson yn Arberth wrth weld y brwdfrydedd a oedd ymysg y rhai yn y gynulleidfa ynghyd 芒'r siaradwyr. Roedd yn braf gweld cymaint yn bresennol mor frwdfrydig dros ddyfodol yr iaith yn y fro."

Un o ffynonellau pwysicaf unrhyw ardal Gymraeg yw ei Phapur Bro ac un sydd wedi gweithio'n ddygn ers rhyw chwarter canrif ar y Cardi Bach a siaradodd nesaf, sef Mrs Rhoswen Llewellyn. Soniodd hithau am bwysigrwydd y papur bro fel cyfle i rannu newyddion a digwyddiadau lleol yn y Gymraeg. Nododd nad oedd gohebydd wedi bod dros Arberth ers amser a dywedodd bod croeso i bobl Arberth gysylltu 芒 Rhidian Evans, Menter Iaith Sir Benfro yn Neuadd y Frenhines ar fore dydd Mercher rhwng 10 ac 1 o'r gloch.

Ar ran PLANED, sef un o sefydliadau pwysicaf Arberth siaradodd Catrin Evans gan s么n am y gwaith mae PLANED yn gyflawni yn yr ardal. Yn olaf daeth Rhidian Evans, Swyddog Maes y Fenter i s么n am y gwaith sydd wedi ei gyflawni ac am y datblygiadau a ddaw yn ardal Arberth. Mae swyddfa rhan-amser eisoes wedi agor ar fore Mercher rhwng 10 ac 1 o'r gloch yn Neuadd y Frenhines, lle bydd croeso i bawb droi fewn am sgwrs, cael gwybodaeth a rhannu syniadau - ac wrth gwrs dod 芒 newyddion i'w gynnwys yn y Cardi Bach.

Yn y dyfodol agos byddwn yn cynnal Bore Coffi a digwyddiadau eraill. Edrychwch allan ar hyd y lle am fwy o fanylion yn nes at y dyddiad. Am fwy o fanylion ar waith Menter iaith Sir Benfro mae croeso i chi gysylltu 芒 ni naill yn Swyddfa Crymych ar 01239 831129 neu yn Abergwaun ar 01348 873700.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy