大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Menna Gwyn Cofio Menna
Ebrill 2006
Teyrnged i Menna Gwyn a fu farw yn Ebrill 2006.
Pan ddaeth gweinidog ifanc newydd a' i wraig i'r ardal hon, i wasanaethu Eglwys Henllan Amgoed yn Medi 1966 - 40 mlynedd yn 么l, ychydig a feddyliodd yr un ohonom pa mor fawr fyddai'u dylanwad, trwy eu gweithgarwch amrywiol yn y fro a thu hwnt.

Bu arhosiad Y Parchg. Aled Gwyn a'i wraig, Menna, ym mro'r Cardi Bach, yn destun llawenydd ac atgofion hyfryd.

Gyda thristwch mawr felly, y clywsom am farwolaeth Menna ar Ebrill 6, ar 么l dioddef afiechyd creulon. Brwydrodd ar hyd ei hoes yn erbyn poen, yn ddi-rwgnach a gyda gw锚n ac edrychai bob amser yn osgeiddig a swynol (os dyna'r gair am glamorous) Ymladdodd ei brwydr olaf yr un mor ddygn a dewr.

Roedd Menna yn ferch amryddawn, ddiwylliedig a galluog. Bu'n athrawes yn Ysgol Pantycaws am rai blynyddoedd, nes ymunodd Non a Rolant 芒'r teulu. Hi ddechreuodd Cangen Hendygwyn o Ferched y Wawr (1970) a hi hefyd a sefydlodd Cylch Meithrin yn ei chartref, tua 1972, cyn i'r Cylch symud i Ganolfan Ffynnonwen. Yr adeg yma hefyd, roedd criw mawr o ieuenctid yng Nghapel Henllan a bu Aled a Menna yn arweinyddion gwych i'r bobl ifanc yma. Bu' n cymryd dosbarthiadau nos i Ddysgwyr, yn Ysgol Griffith Jones ac Efailwen - nid oedd pall ar ei gweithgarwch.

Yn ddiweddarach, bu'n actio rhan nyrs ym Mhobol y Cwm a dram芒u eraill; cyflwynydd gyda'r B.B.C.; cynhyrchydd 'Wythnos i'w Chofio' a 'Beti a'i Phobol' a chofiwn ei llais melfedaidd yn cyflwyno miwsig clasurol yn gynnar ar fore Sul. Cerddoriaeth oedd ei chariad cyntaf.

Yn bwysicach fyth, bu'n fam arbennig i Non a Rolant ac fel y nodwyd yn y `Western Mail' yn fam-gu lawen i'w hwyrion. Cofiwn am ei thor-calon ar 么l colli Gwennan a pha mor ofalus y bu hi ac Aled o'r roces fach yn ei salwch trist. Trwy'r cwbwl, cadwodd ei hysbryd yn felys, ei ffydd yn gadarn a'i hiwmor yn fyrlymus.

Dywed adnod yn y Beibl, "Byddwch lawen a hyfryd" a dyna fel bu Menna. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf fel ardal i Aled a'r teulu, gan gofio pa mor ffyddlon a gofalus y bu yntau ohoni, yn enwedig yn ei blynyddoedd olaf.

Boed i Dduw fod yn gysgod ac yn gysur iddynt i gyd. Trysorwch eich atgofion hyfryd amdani.

Margarette Hughes a Rhoswen Llewellyn


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy