大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Aerona Edwards ac Enfys wedi dadorchuddio'r gofeb hardd i Dilwyn Edwards. Rhoddwyd y garreg gan Wil a Llinos John, Y Crofft, Maenclochog. Hisht-w!
Gorffennaf 2002
Yn dilyn llwyddiant y cynhyrchiad awyr agored Hishtw ar sgw芒r Maenclochog y llynedd, penderfynodd y gymdeithas ddiwylliannol leol 'Clychau Clochog' ddadorchuddio carreg goffa i Dilwyn Edwards ar y cilcyn glas yng nghanol y pentref ddydd Sul, Gorffennaf 21.
Cynhaliwyd oedfa Gymun Undebol awyr-agored, yn gyntaf o dan arweiniad Y Parch. Llinos Gordon, yn cael ei chynorthwyo gan y Parch. Eirian Wyn Lewis.

Er bod y sgw芒r yn llawn 'roedd yna wacter hefyd am nad oedd y 'deryn mowr' yno ymysg y gynulleidfa, gyda'i wen a'i j么c.

Erbyn 4 o'r gloch roedd y dyrfa wedi cynyddu a phobol o bell ac agos wedi tyrru i'r gwasanaeth coffa.

Gweddi deimladwy
I ddechrau offrymwyd gweddi deimladwy gan Y Parch. Tecwyn Ifan.

Cyfeiriodd Hefin Wyn (Cadeirydd) at ddawn fawr Dil i wneud i bobol chwerthin. "Hiwmor," meddai "yw'r lefain a'r sment yn ein bywydau".

Tarddai ffraethineb Dil o bridd ei filltir sgw芒r ac roedd ei draed yn solet ar y tir hwnnw. Darllenwyd cerdd i Dilwyn o waith Y Prifardd Eirwyn George, gan Eirianwen Thomas.

Cyn i'r Parch. Tecwyn Ifan ganu ei g芒n deyrnged i Dil, Hishtw, canwyd dwy g芒n gan blant Ysgol Gymuned Maenclochog, sef Gwena a Ni yw Plant Maenclochog.

Talwyd teyrnged gyfoethog i Dil gan Y Parch. Hywel Jones - ei gyn-weinidog. Bu'n s么n am ei fywyd fel gwas fferm, fel ffermwr, y gyrrwr lori a'r dyn insiwrin.

Stor茂wr dawnus
Soniodd am ei ddawn naturiol fel stor茂wr, am ei nerfusrwydd cyn camu i'r llwyfan, a'i ddawn i wneud i bobol chwerthin yn iach; bu'n gymwynaswr mawr a rhoddodd filoedd tuag at bob math o achosion da.

Braint, meddai Hywel Jones, oedd cyfeillachu 芒 Dil dyn y bywyd crwn.

Soniodd y Prifardd Eirwyn George am ei gyfeillgarwch 芒 Dil. Roedd yn gyfaill da gyda diddordeb mawr mewn pobol - eu hynt a'u helynt.

Eirwyn a ysgrifennodd yr englyn a welir ar y maen coffa - y maen fu unwaith, efallai, yn dal iet i fyny - digwyddiad a fyddai wrth fodd hiwmor Dil.

Dyma'r englyn:

D么i 芒 mwynder Bro Cerwyn - o'i Hafod
I'w lwyfan i ennyn
Hiwmor i danio dyn
Daliwr y dorf oedd Dilwyn

Dadorchuddio'r gofeb
Munud ddwys iawn oedd honno pan ddadorchuddiwyd y gofeb gan ei wraig Aerona ac Enfys, ei ferch - munud pan mae'r galon yn llawn o atgofion melys a thristwch am y golled.

Fel y dywedodd Hefin Wyn, "Mae arwyddoc芒d llawer o'r Meini ar lethrau'r Preseli wedi mynd yn angof yn niwl amseroedd, ond mae'r cerrig a godwyd yn y cyfnod diweddar, wedi cadw'n fyw y cof gwerin am lewion fel Waldo Williams, W.R. Evans a'r Parch. Joseph James. Mae Dilwyn Edwards yn yr un llinach".

Dilwyn Hafod Ddu

"Shwt ichi heno, Bois", o ben y llwyfan,
Dilwyn sy 'na, a'i w锚n fel heulwen lydan.
Mae'r dorf yn rowlio chwerthin wrth ei weld-e,
A phawb, waeth lle y bo, yn rhico dag-e.
Fe allech dyngu bod ei gorff e'n codi,
A'i liged fel dwy seren yn gwreichioni.
Heno, 芒 dawn yr actor pert dan glo,
Mae'i enw'n aros ar dafodau'r fro.

Bu galw arno, do, drwy Gymru gyfan,
I hudo'r cannoedd gyda'i sbarc ar lwyfan,
A gwelsom fawrion gwlad yn corco chwerthin
Wrth wrando ar arabedd y dyn siwrin.
Er iddo fynd ymhell, a gwneud ei si芒r,
Anghofiodd e erioed mo'i filltir sgw芒r.

0! gwyn eu byd y rhai drwy bob rhyw strach
A wnaeth eu rhan i wneud y pethau bach.
A gwyn eu byd y rhai, drwy storm a heulwen,
A wnaeth i bobol eraill deimlo'n llawen.
A Dil yr Hafod bellach wedi mynd
Mae'i gwmni'n loetran yn y cof....fel ffrind.

Eirwyn George

Darllenwyd y gerdd hon gan Eirianwen Thomas


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy