大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
William Mathias Cofnodi deng mlwyddiant marwolaeth William Mathias
Ebrill 2002
Ganwyd William Mathias yn Hen Dy Gwyn ar Daf ym 1934.
Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth cyn ennill ysgoloriaeth i astudio'r piano a chyfansoddi yn yr Academi Gerdd Frenhinol.

O 1970 hyd 1988 bu'n Athro yr Adran Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor, gan ei ethol yn F.R.A.M ym 1965.

Derbyniodd Wobr Cymdeithas BAX ym 1968, a D.Cerdd anrhydeddus gan G么r Coleg Westminster, Princeton yn yr UDA lle mae ei waith yn cael ei berfformio'n aml. Ym 1985 cafodd ei anrhydeddu gyda'r C.B.E.

Cymrodd ran amlwg mewn bywyd cyhoeddus drwy fod yn Llywodraethwr y 大象传媒, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywydd yr ISM.

Cyfansoddwr Cynhyrchiol
Fel cyfansoddwr cynhyrchiol, derbyniodd amryw o gomisiynau, gyda nifer o'i brif weithiau wedi eu recordio gan labeli Nimbus a Chandos.

Sefydlodd Wyl Gerdd Gogledd Cymru yn Llanelwy ym 1972 a bu'n Gyfarwyddwr Artistig arni hyd ei farwolaeth annisgwyl ym 1992.

Mae William Mathias yn cael ei gydnabod fel un o gyfansoddwyr mwyaf llewyrchus Cymru. Nodwedd amlycaf ei gerddoriaeth oedd yr arddull liwgar, rhythmig ac eang ei hap锚l, ac a sicrhaodd iddo boblogrwydd ymysg cynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol.

Ychwanegu gweithiau newydd
Yn arbennig ar gyfer cofnodi deng mlwyddiant ei farwolaeth, ychwanegir tri gwaith newydd at gatalog Cwmni Cyhoeddi Gwynn.

Y gweithiau yw Pan Oeddwn Fachgen (1971), c芒n safonol ar gyfer llais uchel a phiano, trefniadau unawdol cynnar o rai o ganeuon gwerin mwyaf swynol yn Tair Alaw Gymreig (1958-62) a'r fersiwn wreiddiol TTBB o'i waith olaf ond un, Gweddi'r Arglwydd, a gyfansoddwyd ganddo ar gyfer C么r Meibion Hendygwyn. Yn ychwanegol, fe gyhoeddir fersiynau newydd SATB o'i dair rhan-g芒n TTBB.

Yn ddiweddar cafwyd amryw o berfformiadau o'i weithiau gyda'r Cantata ddramatig St Teilo yn cael adfywiad gan Gantorion Bro Ogwr yn 2001.

Gyda'r perfformiad cyntaf o'r Dair Alaw Gymreig yng Ngwyl Biwmares ym mis Mehefin, ynghyd 芒 pherfformiad o Pan Oeddwn Fachgen yng Ngwyl Gerdd Gogledd Cymru ym mis Medi, bydd y flwyddyn 2002 yn argoeli i fod yn deyrnged haeddiannol i un o gewri cerddorol Prydeinig yr Ugeinfed Ganrif.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy