大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Richard gyda Paul Tergat a Moses Tanui Helpu Plant Kenya
Hydref 2007
Mae pobl yn gyfarwydd ag Ap锚l 'Red Shoes' a ddechreuwyd gan Richard Owen, Y Bont-faen (mab Denley a Lon Owen, yn wreiddiol o'r ardal hon), er mwyn casglu adnoddau ymarfer ail-law i athletwyr yn Kenya.

Digwyddodd Richard gwrdd 芒 Moses Karpire yn Kenya a dod ar draws uchelgais cyffredinol rhwng y ddau. Maent yn cyd weithio gan ffurfio cyfeillgarwch, cyfnewid ymweliadau a dysgu am eu gwahanol gefndir, traddodiadau a deallgarwch.

Gobeithiant sefydlu cysylltiadau a ddaw i sylw'r Cynulliad, i ffurfio dolen gyswllt rhwng Cymru ag Affrica er mwyn tynnu sylw at y tlodi, trwy gyfrwng Datblygiad y Mileniwm i gael gwared ar y tlodi yn y wlad honno.

Bu ateb i'r Ap锚l yn fwy o lawer na disgwyliadau Richard ac mae wedi medru hedfan i Kenya i drosglwyddo 140kg o'r dillad ymarfer a gyfrannwyd gan bobl y fro lle mae'n byw yn Sir Forgannwg.

Dyma grynodeb o'i brofiadau yn Kenya, yng ngwersyll ymarfer Moses.

"Rwy'n paratoi ar gyfer cael ychydig o gwsg (yn fy nillad) yng Ngwesty Shabyville yn nhref Kukura, gogledd-orllewin Kenya. Ddoe, cefais gynnig cwpanaid o laeth gafr! Does dim adnoddau yma - rwy'n ysu am gael 'cawod' a newid fy nillad - dim d诺r, dim drych a dim trydan. Er hyn, rwy'n bwriadu dod n么l i Kenya am ddau reswm. Yn gyntaf i drosglwyddo'r gwisgoedd trac a'r sgidiau i'r athletwyr yn y gwersyll ymarfer, yn Eldoret.

Mae'r athletwyr yn anfon eu diolch a'u gwerthfawrogiad i bawb a wnaeth hyn yn bosib. Gellir dilyn eu datblygiad ar y We (www.redshoesltd.com) Yn ail, roeddwn am drosglwyddo 140kg o'r 'kit' ail law a roddwyd i'r prosiect gan drigolion y Cymoedd. Neithiwr aethom o Nairobi (yn erbyn cynghorion i beidio gyrru yn ystod y nos oherwydd bod brodorion y Mungiki yn beryglus ac yn lladd) cawsom law trwm nes gwneud y trac i Eldoret fel afon!

Beth bynnag daeth toriad gwawr a llu o blant yn gadael eu cartrefi i gerdded y daith hir i'r ysgol. Roedd llawer ohonynt yn droednoeth, felly dyma ni'n agor y bocsus gan gyflwyno tua 100 p芒r o esgidiau iddynt ac i'w rhieni troednoeth ar 么l ceisio sychu eu traed mwdlyd.

Gwelsom olygfa debyg am y daith o 200km ond nid oedd gennym ragor i'w gynnig. Diolchwyd inni gan y plant a'r oedolion a dderbyniodd esgidiau, gyda'r geiriau "Diolch i chwi a boed i chwi gael eich bendithio."

Ym mis Awst, byddwn yn dychwelyd i ddechrau prosiect unigryw o adeiladu ysgol gynradd, mewn pentref ar y Masai Mara - lle mae 76 o blant bach yn cael eu dysgu ar hyn o bryd mewn caban cyntefig, sy'n gollwng d诺r yn y gaeaf ac yn grasboeth yn yr haf. Adeiladir yr ysgol gan wirfoddolwyr gyda'r gobaith o ffurfio cysylltiad gyda'r gymuned yn y pentref.

Mae brodorion y MASAI yn enwog am eu balchder yn eu harferion a'u traddodiadau, mewn ffordd, maent yn dal i fod ar wah芒n i'r byd modern. Dylai'r prosiect fod yn brofiad arbennig!

Mae'r plant (8 - 16 oed) yn cerdded am dros ddwy awr i gyrraedd ysgol erbyn 8 o'r gloch y bore; hefyd cerdded n么l yn y prynhawn hwyr. Yn anochel, mae rhai plant yn methu dilyn yr ysgol yn rheolaidd.

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch 芒 Swyddfa "Red Shoes", yn y Bont-faen. Daliwch i gyfrannu dillad ac esgidiau er mwyn i ni fedru eu dosbarthu.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy