大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Gruffudd Ifan S锚r Sir Benfro
Medi 2003
Mae e mor gartrefol yn cerdded trwy Gwmderi ag y mae yn ardal Y Cardi Bach, ac erbyn hyn mae Gruffudd Ifan yn adnabyddus trwy Gymru fel Robert Dilwyn ym Mhobol y Cwm.

I bobol ardal Y Cardi Bach, mae Gruffudd hefyd yn gyfarwydd am ei waith fel Swyddog Prosiect Hendy-gwyn i Fenter Taf Myrddin. Prin iawn yw amser sb芒r Gruffudd Ifan, ond fe ges i gyfle i gael sgwrs gydag e yn ystod seibiant o'i ffilmio.

"Dwi 'di chwarae rhan Robert Dilwyn ers dwy flynedd" meddai Gruffudd wrtha'i. "Ges i wrandawiad yng ngwanwyn 2001, ac er na ges i'r rhan wnes i gynnig amdani, cefais gynnig rhan Robert Dilwyn. Fel mae pethau wedi troi mas, mae'n well rhan na'r un wnes i fynd amdani yn y lle cynta"

Erbyn hyn, mae Gruffudd yn gweithio gyda rhai o actorion enwocaf Cymru. "Roedd hynny'n deimlad annifyr ar y dechrau," meddai Gruffudd wrth edrych no么, "Ond ron nhw'n neis iawn ac roedd Gillian Elisa (sy'n chwarae rhan Sabrina, mam Robert Dilwyn) ym gr锚t. Wnaeth hi fy helpu i ddysgu'n linellau, egluro'r termau technegol wrth ffilmio a fy helpu i setlo mewn yn gyffredinol.

Nid dymar tro cynta i Gruffudd actio ar y teledu. Fe ymddangosodd hefyd yn y ddrama Y Palmant Aur, ond mae ei ddiddordeb mewn actio yn mynd yn bellach yn 么l i'r cyfnod pan roedd yn yr ysgol, yn actio'r prif rannau yn nifer o gynyrchiadaur ysgol a gyda chwmn茂au theatr lleol. Erbyn hyn mae e'n derbyn nifer o sgriptiau gafaelgar yng Nghwmderi.

"Dwi'n mwynhau'r sgriptiau lle mae Robert Dilwyn yn gyfeiliornus a tamaid bach yn slei," meddai Gruffudd gan wenu. "Mae e'n fwy o sbort i actio cymeriad fel 'na nag yw e i actio cymeriad sy'n rhy neis!"

Ac yntau yn wyneb mor gyfarwydd, mae'n anodd weithiau i bobol wahaniaethu rhwng y bachgen o Efailwen a'r crwt o Gwmderi. "Dwi wedi cael fy stopio ar y stryd cyn hyn," meddai Gruffudd gan chwerthin. "Unwaith, daeth menyw mewn oed lan ata i a dweud wrtha i'n grac ei bod hi'n gwybod beth o'dd mlaen 'da fi! Meddwl taw Robert Dilwyn o'n i wnaeth hi. Ro'dd hwnna'n eitha doniol!"

Nid dawn actio yn unig sydd gan Gruffudd. Mae e hefyd yn chwarae'r drymiau i'r grwp Texas Radio Band, ac wedi treulio'r rhan fwyaf o'r haf yn recordio albwm newydd fydd yn cael ei rhyddhau cyn hir. Mae 'na gynlluniau hefyd i ddychwelyd i'r stiwdio i recordio mwy o ganeuon cyn hir. "Mae sawl gig wedi eu trefnu 'da ni" meddai Gruffudd. "A phan bydd yr albwm yn cael ei rhyddhau, fe fyddwn ni'n teithio o amgylch Cymru i'w hyrwyddo, felly cadwch lygad mas amdanom ni!"

Er ei fod bellach wedi symud i Gaerdydd, bu Gruffudd yn gweithio i Fenter T芒f Myrddin fel Swyddog Prosiect Hendy-gwyn am gyfnod. "Wnes i fwynhau gweithio ar y Prosiect," meddai. "Mae'r ymateb i weithgareddau fel dathliadau Gwyl Dewi a'r jambori gyda Martyn Geraint yn dangos pa mor llwyddiannus mae'r Prosiect wedi bod."

Ond erbyn hyn wedi ymgartrefu yn y brifddinas, mae'n benderfynol o wneud y gorau o bob cyfle ym myd actio."Dwi'n teimlo'n drist i ardal y Prosiect yn Hendy-gwyn," meddai, "Ond nawr yw'r amser i weld os yw hi'n bosib i fi wneud gyrfa fel actor, ac ma' rhaid i fi fod yng Nghaerdydd i wneud hynny'n llwyddiannus. Ond er 'mod i'n symud i Gaerdydd, rwy'n gobeithio y galla'i helpu Prosiect Hendy-gwyn yn y dyfodol," meddai Gruffudd.

Dymunwn yn dda i Gruffudd wrth iddo geisio gwneud ei farc mewn byd cystadleuol dros ben, a gobeithio y gwelwn llawer mwy ohono ar ein sgrin deledu yn y dyfodol. A phwy 芒 wyr, efallai y byddwn ni'n gweld Gruffudd Ifan yn rhoi'r gorau i stryd fawr Cwmderi am boulevards Hollywood rhywbryd yn y dyfodol. Gwell i Ioan Gruffudd a Rhys Ifans ddechrau edrych dros eu 'sgwyddau.... !


Kevin Davies
Kevin Davies
Disg a Dawn
Sgwrs gyda Kevin Davies

"Do'dd hi byth yn uchelgais fowr i fi fod yn gyflwynydd radio- na'th e jyst ddigwydd!" meddai Kevin Davies wrth imi ofyn iddo sut ddechreuodd e' yn y diwydiant darlledu.

Er hyn, mae e nawr yn wyneb a llais cyfarwydd trwy Gymru gyfan ac ar hyn o bryd yn mwynhau cyflwyno ar C2, y rhaglen newydd i bobol ifanc ar Radio Cymru.

"Dwi'n lwcus iawn i gael gwneud gwaith dwi'n mwynhau ei wneud," meddai wedyn. "Dyw hi ddim yn struggle o gwbwl i godi yn y bore er mwyn mynd i'r gwaith!"

Er mai fel cyflwynydd radio y mae Kevin Davies fwyaf adnabyddus, nid yw'n ddieithryn ar sgrin fach y teledu chwaith. Mae'n gallu dweud ei fod wedi bod ar rai o raglenni mwyaf adnabyddus a phoblogaidd S4C gan gynnwys Dinas, Jacpot a'r hen ffefryn Ffalabalam.

"Wo'n i'n joio cyflwyno ar y teledu" meddai Kevin wrtha'i. "Roedd e'n waith caled, and ro'n ni'n cael sbort mowr!!"

Ond yn ogystal 芒'r gwaith cyflwyno, oeddech chi'n gwybod bod Kevin wedi bod yn tipyn o foi roc a r么l yn ei ddydd hefyd. Tra yn yr ysgol, roedd yn rhan o grwp roc gyda chriw o'i ffrindiau, ac yn perfformio o den yr enw 'Y Diawliaid'. Tra'n ymddangos ar y rhaglen Clipsen ar S4C yn ddiweddar cafodd Kevin ei fodd gan atgofion o'r gorffennaol wrth iddynt ddangos fideo o'r 'Diawliaid' yn perfformio, a hynny cyn i Kevin ddod yn wyneb adnabyddus!

"Roedd hi'n sioc ofnadwy, cred ti fi" meddai Kevin, "ond roedd hi hefyd yn gr锚t i weld y fideo o'r grwp eto achos r'on i'n meddwl bod hwnna wedi mynd ar goll!

Wedi cael blas ar y bywyd roc a r么l unwaith eto, tybed a ddaw 'na gyfle i weld 'Y Diawliaid' yn ailffurfio ac yn perfformio eto, cyn hir?
"Sai'n meddwl ny!" yw ateb pendant Kevin wrth iddo gael pwl o chwerthin. "Do'dd y llais ddim gyda fi yn y Ile cynta', ac yn bendant dyw e ddim da fi nawr!"

Y tu 么l i feicroffon mewn stiwdio glyd tra'n darlledu ar y radio mae Kevin Davies fwyaf hapus heddiw. Mae e wedi cael y cyfle i gyfweld 芒 phob math o bobol ar ei raglenni ond mae un neu ddau berson arall y byddai wrth ei fodd yn cael sgwrs gyda nhw.

"Yn bendant, Nelson Mandela," meddai Kevin, "mae e wedi cael gymaint o brofiadau. A Billy Connolly hefyd. Hoffen i weld beth sy'n neud iddo fe ticko!

"Felly, yn un o DJ's adnabyddus Radio Cymru ac yn hapus ei fyd, beth yw gobeithion Kevin Davies ar gyfer y dyfodol?
"Dwi ishe parhau gyda'r hyn dwi'n neud i fod yn onest" yw ei ateb syml. "Cario 'mlaen i weithio fel ydw i nes 'mod i'n ddigon cyfoethog i ymddeol yn gynnar!"

Braf iawn, wir!

Aled Wyn Vaughan


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy