大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Texas Radio Band, llun gan Mei Lewis. Rhoddwyd gan 'Sound Nation' Texas yn taro'r nodau cywir
Ionawr 2004
Mae gr诺p ifanc o ardal Caerfyrddin yn prysur wneud enw i'w hunain yn y byd cerddorol.
Mae Texas Radio Band yn enw cyfarwydd yn lleol ers rhai blynyddoedd bellach, ond erbyn hyn maent wedi cael cydnabyddiaeth a chlod cenedlaethol wrth gipio'r wobr am y "Talent orau yn y Gymraeg" yng ngwobrwyon y Ffatri Bop ar ddiwedd Tachwedd 2003.

Mae aelodau'r gr诺p yn dod o bob cwr o Sir G芒r ond mae un dyn bach o Efailwen yn eu plith hefyd, set Gruffudd Ifan. "Roedd hi'n noson brilliant" meddai Gruffudd am y seremoni wobrwyo yn y Ffatri Bop yn Porth, Rhondda. "Roedd enwau mawr y s卯n gerddoriaeth i gyd yno, roedd yr holl fwyd a diod am ddim a pharti mawr yn dilyn y seremoni mewn ystafell oedd wedi ei addurno fel casino!"

Roedd hi'n sicr yn noson fawr i Texas Radio Band a ddaeth i'r brig yn erbyn grwpiau cyfarwydd eraill gan gynnwys Zabrisnki, Kentucky AFC a Pep Le Pew.

Doedd hyn ddim yn brofiad newydd sbon i Texas Radio Band ar 么l iddyn nhw ennill y wobr am y 'Talent newydd gorau yn y Gymraeg' yn 2002. Ond nid derbyn y wobr oedd unig uchafbwynt y noson i aelodau'r gr诺p eleni.

"Cawson ni gyfle i gwrdd 芒 llawer o bobol enwog yn y parti ar 么l y seremoni" meddai Gruffudd. "Wnaethon ni siarad gyda'r gr诺p 'The Darkness' ac roedd y 'Manic Street Preachers' yna hefyd. Fe wnaeth rhai o'r bois siarad gyda Sinead Quinn o'r rhaglen Fame Academy a'r actor Rob Brydon o'r rhaglen Marian and Geoff Ac fe fues i'n chwarae cardie' gyda Stuart Cable o'r Stereophonics a'i gariad Lisa Rogers!"

Mae'r gr诺p wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar wrth baratoi at lansio eu halbwm newydd 'Baccta Crackin' a pharatoi ar gyfer taith ar draws Cymru.

"Ry'n ni wedi trefnu nifer o gigs er mwyn hyrwyddo'r albwm newydd" meddai Gruffudd. "Ry' ni'n chwarae yn y gogledd a'r de a hefyd yn Lerpwl a Llundain." Mae'n amlwg bod cerddoriaeth afaelgar y gr诺p yn boblogaidd iawn felly, a'u caneuon, sy'n cael eu disgrifio fel roc/pop acwstig gyda naws wledig, wedi lledu ymhell dros Glawdd Offa.

Felly, gyda phroffil Texas Radio Band yn datblygu, beth yw eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol? "Ar 么l i ni orffen y daith fe fyddwn ni n么l yn y stiwdio dros y Pasg er mwyn dechrau recordio albwm newydd" meddai Gruffudd. "Ma' amser prysur o'n blaen ni dros y misoedd sydd i ddod."

Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn i'r Texas Radio Band, a gobeithio y daw cyfle i'w gweld nhw'n perfformio yn ardal Y Cardi Bach cyn hir.

gan Aled Vaughan Prosiect Papurau Bro

AELODAU TEXAS RADIO BAND
Matthew Williams - cyfansoddi, canu a chwarae'r git芒r
Rhydian Jones - Git芒r fas
Rhodri Davies - Allweddellau
Gruffudd Ifan - Drymiau
Alex Dingley - Git芒r flaen
Bethan England- Offerynnau taro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy