大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Tirana yn Albania Llewyrch i'm Llwybr
Mawrth 2007
Rai blynyddoedd yn 么l cefais y fraint o ymweld ag Albania lle roedd un o'm ffrindiau yn dysgu darpar offeiriaid yr Eglwys Uniongred ar y pryd. O blith fy amryw brofiadau, y mae un yn enwedig yn sefyll ar fy nghof.

Ychydig amser ar 么l i mi gyrraedd y brifddinas, Tirana, aethom am dro tua chanol y lle. Ychydig ddyddiau ar 么l y Pasg ydoedd, a dyma ni'n edrych i fyny a sylweddoli bod baner anferth yn chwifio uwchben. Yn ffodus, roedd fy nghyfaill yn medru cyfieithu'r geiriau ar y faner. Dyma'r genadwri i bawb a gerddai trwy'r strydoedd hynny: "Yn enw y Crist atgyfodedig, y mae Eglwysi Albania yn dymuno Pasg llawen i chwi oll". Tybed a fuasai'n debyg i ni weld y fath neges uwchben strydoedd Caerdydd eleni?

Yng Nghymru, y mae gennym ryddid crefyddol i wneud ein safbwynt yn glir yngl欧n 芒 natur Cristnogaeth. Nid felly y bu yn Albania am flynyddoedd lawer oherwydd, dan yr arweinwyr comiwnyddol a fu mewn grym am bron hanner canrif, poenydiwyd crefyddwyr o unrhyw fath yn ddidrugaredd. Yn wir, amcangyfrifir bod oddeutu deunaw mil o Gristnogion a Mwslemiaid wedi colli eu bywydau yn yr union un cyfnod. Felly, rhyfedd oedd cael cyfle i fynychu gwasanaeth yn y Gadeirlan yn Tirana ar y Sul a chanfod bod cannoedd, ie cannoedd, o bobl ifanc yn bresennol. Mor wahanol yw ein sefyllfa ni ar y cyfan, onide?

Gallwn fentro dweud bod yr Eglwys yn Albania wedi atgyfodi fel petai o'r meirw. Mae'r gair `Atgyfodiad' yn arwyddocaol iawn yr adeg hon o'r flwyddyn, wrth i Gristnogion baratoi erbyn prif 糯yl ein Ffydd. Ac wrth gyfeirio at brofiad Albania, cwyd cwestiwn anochel - Os na chyfododd Crist, pa reswm y rhoddwn ni am enedigaeth yr Eglwys Gristnogol yn y lle cyntaf? At hyn gellid ychwanegu cwestiwn arall - Sut yr awn ati i esbonio ail enedigaeth yr Eglwys yn Albania?

Mae rhai yn credu bod y gwragedd a ymwelodd 芒'r bedd ar fore Sul y Pasg wedi breuddwydio yn ofer, neu wedi colli gafael ar eu synnwyr. Mae eraill yn taeru mai gweld drychiolaethau yr oeddent a dim byd mwy. Ond nid dyna'r esboniad a gawn ni yn y Testament Newydd lle mae'r pwyslais ar yr hyn a ddigwyddodd i Iesu ei hun. Bu farw llawer Cristion yn Albania felly, ond ni roddwyd ergyd farwol i'r gred fel y cyfryw.

Dro ar 么l tro, mae nerth y Crist byw wedi trechu, nid yn unig marwolaeth, ond hefyd siniciaeth ac anghrediniaeth. Neges yr Eglwys i'r holl fyd yw hyn: mae Crist yn fyw. O'i Berson y daeth y nerth a gynhaliodd y ffyddloniaid yn Albania ar hyd y blynyddoedd llwm. Mae'r un nerth ar gael i ni yn wyneb difaterwch y Gymru gyfoes hefyd.

Mae'n debyg y bydd rhywrai yn canu'r geiriau canlynol ar fore Sul y Pasg. Yng ngoleuni profiad Albania, onid allwn ni i gyd eu canu yn fwy angerddol fyth, eleni:- Gwelir myrdd yn cilio ymaith
At allorau Duwiau gau;
Cododd Iesu!
I wirionedd gorsedd fydd.

Y Parchedig Jeffrey Gainer


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy