大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
Theatr Gwynedd. Llun: Gaynor Thomas Theatr ac amgueddfa dan fygythiad
Chwefror 2008
Mae dau o sefydliadau pwysicaf Bangor dan fygythiad - Theatr Gwynedd ac Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.

Mae pryderon yngl欧n 芒 dyfodol y ddau sefydliad yma wedi'u mynegi'n ddiweddar mewn papurau newydd ac ar y newyddion.

Mae dyfodol y Theatr yn ansicr ac yn 么l pob s么n bydd yn cau yn yr Hydref gyda chanolfan i'r celfyddydau perfformiadol yn cael ei hadeiladu rhywbryd yn y dyfodol.

Byddai cau'r Theatr yn ergyd drom i'r gymuned leol a thu hwnt gan ei bod yn rhan bwysig o fywyd diwylliannol y ddinas ac yn denu cynulleidfaoedd o bob rhan o Wynedd i weld perfformiadau.

Yr un mor ansicr yw dyfodol Amgueddfa ac Oriel Gwynedd. Prifysgol Bangor yw perchennog yr Amgueddfa ond ers blynyddoedd bellach Cyngor Gwynedd sy'n ysgwyddo'r baich ariannol o redeg yr Amgueddfa.

Oherwydd toriadau mawr y flwyddyn nesaf mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd hi'n fwyfwy anodd cefnogi'r Amgueddfa'n ariannol.

Mae cefnogwyr yr Amgueddfa wedi mynegi eu pryder ac yn 么l y Dr John Llewelyn Williams (Cyn-warden Neuadd John Morris Jones), ar ran cyfeillion yr Amgueddfa a'r Oriel, y mae ansicrwydd gwirioneddol yngl欧n 芒 dyfodol yr Oriel sy'n cynnwys hen ddodrefn, casgliadau gwerthfawr a chreiriau archeolegol o bwys.

Byddai colli'r Amgueddfa, sydd wedi bod mewn bodolaeth ers sefydlu'r Brifysgol ym 1884, yn golygu colli rhan bwysig o hanes Bangor a'r Gogledd.

Dyma ddau sefydliad sydd 芒 chysylltiadau agos iawn 芒'r Brifysgol yma ym Mangor. Tra bo'r Brifysgol yn ehangu ei gorwelion a denu myfyrwyr o bob rhan o'r byd oni ddylai fod yn gwarchod a chefnogi'r sefydliadau hynny o fewn y gymuned a'r ardal leol?

Wedi'r cyfan mae'n bwysig cofio pwy fu'n gyfrifol am sefydlu'r Brifysgol yma yn y Gogledd dros ganrif yn 么l, a glynu wrth rai o'r gwerthoedd hynny oedd yn rhan mor bwysig o'r weledigaeth honno.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy