Ac yntau'n saer ers bron hanner canrif, go brin y bu George Owen o Fangor yn nes at y nefoedd yn ei waith bob dydd. Eleni bu'n ennill ei fara menyn ar gopa'r Wyddfa, yn rhan o'r giang sy'n codi caffi newydd yno.
Hwyrach y cofiwch i Dywysog Cymru sbarduno'r newid ar y copa, drwy gyfeirio at yr hen gaffi yno fel 'slym uchaf Prydain'.
Yn dilyn ei sylw plaen aethpwyd ati i godi'r miliynau angenrheidiol, ac mae'r gweithwyr yn prysur gwblhau'r prosiect ar gost o dros £8 miliwn. A bu George Owen, Rhoswyn, Penrhosgarnedd, yn rhan allweddol o'r gwaith, yn rheoli tîm o seiri coed wrth iddyn nhw frwydro'n ddyfal yn erbyn yr elfennau.
Mae gan gopa'r Wyddfa ei dywydd ei hun wrth gwrs, ac aml dro mae George wedi ei chychwyn hi am y copa ar y trên bach a hithau'n tywynnu haul yn Llanberis, ond erbyn cyrraedd y brig gall bod eira'n lluwchio'n drwm a'r amgylchiadau'n debycach i'r Arctig.
Y llynedd bu George yn helpu efo'r gwaith o chwalu'r hen adeilad a'i gludo fesul deg tunnell ar y trên i lawr i Lanberis.
Ym mis Mawrth bu'n gosod y sylfaen ar gyfer y caffi newydd, a elwir yn Hafod Eryri (neu How odd Shirley chwedl y Brummies) - ac mae'r gwaith o godi'r adeilad yn prysuro'n ei flaen tan 7 Rhagfyr, pan fydd y fenter yn dod i ben dros y Gaeaf oherwydd y tywydd garw, ac er mwyn rhoi cyfle i gwmni Tren Bach yr Wyddfa drwsio a chynnal y cledrau.
Yn wreiddiol o Sling ger Tregarth, symudodd George Owen i Fangor ar ôl priodi. Bu'n saer coed ers yn bymtheg oed a hynny ers 48 o flynyddoedd.
|