Maent am godi bron i 200 0 fflatiau yno a dwy siop oddi tanynt. Cafodd y cais ei drafod mewn cyfarfod o Gyngor Dinas Bangor a bydd pwyllgorwyr Cyngor Gwynedd yn debyg o'i ystyried y mis nesaf.
Trowyd Gwesty'r British yn fflatiau'n barod gan ychwanegu darn ati fel bod 180 o unedau yn Neuadd Willis.
Mae'r rhan hon o'r ddinas yn destun cryn sylw i ddatblygwyr. Mae cais hefyd i godi sinema newydd ar y cae p锚l-droed ynghyd a safle bowlio deg. Er fod caniat芒d i godi Asda yn Ffordd Farrar, a chais arall i ganiat谩u siopau llai yno, nid oes dim wedi digwydd i'r datblygiad hwnnw hyd yma.
Roedd cais arall wedi ei gyflwyno i agor sinema a lle bowlio deg ar St芒d Ddiwydiannol Llandygai. Er bod Pwyllgor Cynllunio Arfon o'i blaid, gan fynd yn groes i swyddogion y Cyngor, bydd y cais hwnnw yn cael ei drafod gan y Cyngor llawn cyn diwedd y mis hwn.
Bu sinema ar safle'r Plaza er 1910 ond yn 1934 yr aed ati i godi'r sinema sydd newydd ei dymchwel. Dros ddeng mlynedd yn 么l addaswyd hi'n sinema ddwy sgrin. Ar un adeg roedd ganddi gystadleuaeth gan ddwy sinema arall, y County a'r City, sydd wedi cau ers blynyddoedd mawr. Ar safle'r County y mae clwb yr Octagon.
Yn y gorffennol, pan oedd hi'n un sinema, cynhaliwyd cyngherddau poblogaidd yno a bu enwau cyfarwydd y cyfnod yn canu ar y llwyfan - rhai fel David Lloyd, Ritchie Thomas, Richard Rees, Emyr ac Elwyn a Hogia'r Wyddfa.
Gyda'r colegau ym Mangor bu'n atyniad mawr i do ar 么1 to o fyfyrwyr heb
s么n am rai oedd yn byw o fewn cylch eang o gwmpas y ddinas. Cafodd ei hanfarwoli yn un o ysgrifau Islwyn Ffowc Elis yn Cyn Oeri'r Gwaed, 'Melodi'. "Wedi ymlacio ym melfed seddau'r Plaza yr oeddwn pan glywais hi gyntaf" yw geiriau agoriadol yr ysgri拢
Ar wah芒n i Gyffordd Llandudno, yng Nghaergybi a Phorthmadog y mae'r sinem芒u agosaf i Fangor erbyn hyn, er bod Theatr Gwynedd yn dangos nifer helaeth o ffilmiau. Roedd dwsin yn gweithio yn y Plaza cyn iddo gau.
|