´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Plant Duw Band ar y brig
Rhagfyr 2006
Mae hi wedi bod yn flwyddyn i'w chofio i Blant Duw - y criw o Fangor sy'n canu caneuon pync-ffync.
Eisoes mae dwy o fideos Plant Duw wedi eu dangos ar raglen deledu Bandit S4C, ac mae eu sengl wych 'Talach Na'r Iesu' wedi dringo i rif 2 yn Siart C2 Radio Cymru.

Hefyd mae'r band wedi denu dilyniant brwd i'w sioeau byw, ac maent bellach yn cael eu cyfrif ymysg sêr disgleiriaf y Sin Roc Gymraeg. Gyda chaneuon chwareus a phowld, a set fyw egnïol a llawn angerdd, mae Plant Duw yn glod i'w rhieni.

Conor Martin sy'n canu a chwarae'r gitâr, ei frawd bach Rhys Martin ar y gitâr ac yn cyd-ganu'r harrnonïau, a'r brawd llai Sean Martin sy'n chwythu'r cornet. Mae'r tri yn feibion i Mair a Michael Martin o Fodafon, Ffordd Siliwen. Elidir Jones yw'r basydd, rnab i Dafydd Glyn a Gwawr Jones, a brawd i Gethin, sydd a'u cartref ym Mangor Uchaf.

Daw'r dryrniwr o Riwlas. Mae Myfyr Prys yn fab i Delyth a Roslyn Prys, a brawd i Gruffydd a Cynog.

Mae'r bechgyn oll yn gynnyrch disglair Ysgol Tryfan. Ar hyn o bryd mae Conor yn ei bedwaredd flwyddyn yn astudio Meddyginiaeth yng Nghaerdydd. Yno hefyd rnae Rhys yn rnwynhau ei flwyddyn gyntaf ar gwrs Peirianneg. Mae cyw'r nyth Sean wrthi'n cwblhau ei flwyddyn olaf yn y chweched dosbarth yn YsgolTryfan.

Tra bo Elidir wedi i rnentro lawr i Gaerdydd i ddilyn cwrs MA Llenyddiaeth Saesneg, rnae Myfyr wedi aros yn nes at adref i wneud MA Hanes ym Mangor.

Hoff le'r bechgyn yrn Mangor yw siop Recordiau'r Cob - sy'n gwerthu eu sengl wych 'Talach Na'r Iesu' gyda llaw. Buont yn perfformio yng Nghlwb y Rheilffordd ym Mangor ar 2 Rhagfyr.

Cymorth i rocars Bangor
Rhyddhawyd y sengl 'Talach Na'r Iesu' gan y label recordiau Ciwdod. Bwriad y label Ciwdod ydi helpu bandiau Cymraeg i ryddhau eu caneuon. Mae Ciwdod yn rhan o gynllun Arncan Un i greu gwaith i bobol leol. Steffan Cravos ydi rheolwr Ciwdod yng Nghaernarfon, ac mae'n croesawu unrhyw ymholiad gan fandiau o ardal y Goriad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý