´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Plant yn modelu ar y 'catwalk' Llwyddiant Sioe Ffasiwn
Mehefin 2005
Milan a Pharis? Anghofiwch nhw. Bangor sy'n arwain ym myd ffasiwn. Ym Merea Newydd, o bob man, yr oedd y catwalk.
Yno, ar nos Iau, 26 Mai, y cynhaliwyd Sioe Ffasiwn Masnach Deg - y gyntaf o'i bath ym Mangor - er mwyn codi arian tuag at Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau 2005, a chafodd pawb a fu yno wledd i'r llygad.

Pwyllgor Apêl Dinas Bangor oedd wedi trefnu'r noson. Roedd yno dros ugain o fodelau lleol o bob oed yn dangos amrywiaeth o ddillad lliwgar a hardd, dan arweiniad dwy gyflwynwraig ddeheuig y noson, Branwen Niclas a Modlen Lynch, a oedd eu hunain yn gwisgo rhai o'r dillad ac yn werth eu gweld.

Eglurwyd fod y cwbl o'r dillad yn rhai a oedd wedi'u masnachu'n deg, ac wedi'u gwneud yn bennaf yn Asia. Roeddynt ar fenthyg o siop Kingdom Crafts, Llandudno, a chan gwmnïau Smilechild a People Tree.

Dyma'r tro cyntaf i'r rhan fwyaf a oedd yn bresennol ddeall bod yna'r fath beth â dillad organig!

Roedd cyfle ar y diwedd i brynu'r dillad, a chyfle hefyd i brynu amrywiaeth o nwyddau ar y stondin Fasnach Deg ynghyd â stondinau eraill. Darparwyd coffi a bisgedi yn ogystal, ac aeth amryw o bobl adref yn gwisgo un o'r breichledau bach gwyn a oedd ar werth ar y noson, ac arnynt y geiriau 'Rhown derfyn ar dlodi'.

Llwyddwyd i godi cyfanswm o dros £500 at yr Eisteddfod, er llawenydd mawr i brif drefnwyr y sioe, Branwen Niclas a Catrin Pari, a chafodd pawb noson werth chweil yn y fargen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý