Roedd yn gorfod cadw at y gadair olwyn a gafodd i fynd ar wyliau yn Florida ddwy flynedd yn 么l. Ond ddiwedd y mis diwethaf cafodd ganiat芒d i ail ddechrau defnyddio'i gerbyd sy'n llawer caredicach i'rdwylo. "Roeddan nhw'n poeni am y s锚t ar hwn a'r effaith fyddai hi'n ei gael ar y goes. Ond diolch am gael ail ddechra' efo hwn. Dwi'n medru mynd fy hun i ben draw'r pier heb orfod brecioefo fy nwylo," meddai. Bu Gwyndaf yn Bostman yn ardal Bangor am ugain mlynedd a rhagor nes iddo gael trafferth efo'i glun chwith a gorfod rhoi'r gorau i weithio. Ddeufis yn 么l cafodd driniaeth saith awr yn Gobowen i gryfhau asgwrn y glun. Yn ddiweddarach eleni mae'n gobeithio cael gosod dun newydd yn yr asgwrn sydd wedi ei addasu gan arbenigwyr yr ysbyty. Ond cyn hynny bydd yn mynd i Gobowen eto i gael clun newydd ar y goes dde. "Dwi newydd glywed mai'r mis nesai fydd hi r诺an, er mai'r mis yma oeddan nhw wedi'i ddeud." Ar 么l i honno wella mae'n gobeithio cael cwblhau'r driniaeth ar y goes arall. "Mae nhw wedi deud y bydd hi'n bosib i mi fynd efo un ffon erbyn y 'Dolig. Gawn ni weld be' ddigwyddith."
|