大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
Bethan Land ar y brig unwaith eto. Doniau Teulu Land
Mehefin 2003
Bethan Land merch Ernest a Lynda Land, Fferm y Garth, Y Felinheli.
Aeth Bethan i Ysgol Gynradd y Garnedd: (1976 1983). Mr William Lloyd Davies oedd y Prifathro ar y pryd, a buan y sylweddolwyd bod ganddi ddawn arbennig hyd yn oed pan oedd hi'n ferch ifanc, sef o arlunio.

Pan oedd yn unarddeg oed fe aeth i Ysgol Tryfan a'i hoff bynciau oedd Celf a Darlunio a gwaith gwnio. Yr athrawesau oedd Mrs Cadi Thomas a Mrs Morfudd Hughes. Ar 么l sefyll arholiadau lefel A aeth i Goleg Technegol Gwynedd am flwyddyn i wneud Cwrs Sylfaen mewn Ffasiwn a Chelf. Ac oddi yno i Goleg Cheltenham and Gloucester am dair blynedd lle cafodd radd mewn Cynllunio Ffasiwn. Yn wir cafodd ddangos ei dillad ar y 'Cat Walk' yn yn Llundain.

Yn 1995 fe benderfynodd Bethan fynd i Los Angeles i weithio yn adran y ffilmiau. Yr oedd yn anodd yn y dechrau cael gwaith. Yr oedd weithiau yn gweithio am ddim ar ffilmiau er mwyn cael profiad.

Mae wedi gwneud dilladau i fwnc茂od mewn ffilm ac mae wedi gweithio efo Rowan Atkinson (Mr Bean); Sue Elen (Dallas); Gwyneth Paltrow; Bruce Willis; Ben Stiller; Angelina Jolie a Billy Bob Thorton ymysg eraill. Dyma rai o'r ffilmiau y gweithiodd arnynt: Shallow Hal, Zoolander, Bandits, Mr Bean Goes to Hollywood. Y ffilm mae hi yn gweithio ar y funud ydi Sea Biscuit. Hanes ceffylau rasio ydi hi.

Mae rhan o'r ffilm wedi cael ei ffilmio yn Kentucky ym mis Hydref, 2002. Bethan a ofalai am yr hetiau yn y ffilm yma. Aethon fel teulu i weld Shallow Hall i bictiwrs ar gyrion Llandudno er mwyn cael gweld enw Bethan Land ar y sgrin fel cynllunydd am y tro cyntaf.

Mae ei brawd Hefin yn gwneud yn dda hefyd fel C.A.D. Designer Engineer i gwmni Johnsons Cortrols. Ar hyn o bryd mae yn gweithio ar gynllun tu fewn i gar Jaguar. Mae Hefin yn byw yn Royal Lemington Spa.

Aeth yntau hefyd i Ysgol y Garnedd Ysgol Tryfan wedyn i Goleg Technegol Gwynedd NEWI yng Nghei Connah a graddio yn Salford Manceinion. Pob lwc i'r ddau.

Ernest Land


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy