Mae Stuart yn gyn-aelod o'r gr诺p llwyddiannus Stereophonics ac mae nawr yn adnabyddus ar y teledu fel gwestywr ei raglen sgwrsio Cable Connects ar 大象传媒 Cymru.
Roedd Stuart yn treulio wythnos yn dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn a gyda'r nos ar 么l astudio drwy'r dydd roedd yn mentro draw i'r Felin am adloniant! Bu'n sgwrsio a llawer o drigolion y pentref yn Nhafarn y Garddfon - a phawb yn cytuno ei fod yn foi hawddgar, tebyg iawn i'r dyn ar y sgr卯n. Mae'n dysgu Cymraeg ar gyfer y rhaglen The Big Welsh Challenge; enwogion eraill sy'n cymryd rhan yw Si芒n Williams, Newyddiadurwraig; Derek Brockway, dyn tywydd; Steve Mayo, actor yn y ddrama sebon Belonging a Susanne Parker, actores a chwaer i Colin Jackson. Dyma bigion o sgwrs gyda Stuart pan eglurodd ei awch i ddysgu'r iaith. "Dwi'n hanu o Gwmaman ac rwy'n cofio llawer o henoed y pentref yn siarad Cymraeg pan oeddwn i'n fachgen, ond bu i'r iaith ddirywio - er bod y Gymraeg yn dechrau dod 'nol i'r gyrnuned nawr. "Rwy'n frwd i ddysgu'r iaith am sawl rheswm. Mae fy mab 4 a hanner mlwydd oed, Cian, yn mynychu Ysgol Gymraeg Aberd芒r ac mae e'n fy nysgu i ar hyn o bryd. Hefyd fydda i'n mynd i weld Rhys Ifans os ydi Gruff Rhys a'r Super Furries yno mae pawb yn siarad Cymraeg a dwi'n benderfynol o allu deall a gallu ymuno yn yr hwyl! Dwi'n cofio bod yn Llundain pan oedd y Stereophonics yn boblogaidd iawn a Chymro yn dod ataf i fy llongyfarch, gan ofyn, "Ti'n siarad Cymraeg?" Teimlais gywilydd wrth orfod ysgwyd fy mhen. Dwi mor falch o fod yn Gymro, yn caru Cymru a dwi eisiau hybu Cymru pob cyfle y gaf". "Yr her gyntaf ar gyfer y rhaglen oedd dysgu 'Hen Wlad fy Nhadau' a Dewi Pws oedd fy nhiwtor. Bu raid i mi ganu'r anthem yn fyw ar Radio Cymru! Her arall oedd mynd i'r bwyty yn Sain Ffagan; eithaf syml tybiais gan feddwl mai dewis pryd faswn i - ond llawer gwaeth, fi oedd yn gweini yno! Mae'n anodd gwella fy Nghymraeg ar adegau - weithiau dim ond gwers awr a gaf mewn wythnos yng Nghaerdydd." Bu'n rhaid holi pwy oedd hoff westai Stuart ar ei sioe gan ei fod wedi cyfweld amryw o s锚r gyda Katherine Jenkins a Rob Brydon yn ymddangos ar ei gyfres gyfredol. "Tom Jones - dyna ddyn! Roeddwn yn ei nabod cynt o deithio a chynnal cyngherddau gydag ef tra yn y band. Mae ganddo straeon di-ri am Elvis, Sinatra a Muhammad Ali. Buasem wedi gallu ffilmio sioe deng awr yn hawdd gydag ef." A fydd Stuart yn dychwelyd i'r Felinheli? "Yn bendant. Mae'n hyfryd yma." Pob lwc i Stuart gyda'i sialens.
|