Daeth tua 30 o bobl ifanc i fwynhau'r sesiwn gyda Ed, oedd yn dangos sut i rapio a chreu curiadau byrfyfyr.
Roedd Ed, sy'n berfformiwr adnabyddus iawn ac yn aelod o'r Genod Droog ac Y Diwygiad, yn dweud fod pobl ifanc dawnus iawn ym Maesgeirchen a'i fod yn awyddus i ddychwelyd i Youth Zone * i gynnal rhagor o weithdai yn y dyfodol agos.
Trefnwyd y gweithdy yn y Clwb Ieuenctid ar y cyd gan Cynllun GweithreduIlaith Bangor, Cymunedau'n Gyntaf Maesgeirchen a Cerdd Gymunedol Cymru, gyda'r bwriad o gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg gyfoes i ieuenctid Maesgeirchen.
"Mae ieuenctid Maesgerichen yn rapwyr da iawn!" meddai Caren Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Cynllun Gweithredu laith Bangor.
"Dangosodd Ed fod lle i'r iaith Gymraeg ar y sin Hip Hop. Fel cerddor proffesiynol, sy'n gwneud bywoliaeth o
rapio a bît bocsio, mae Ed yn berson blaengar ar y sin gerddoriaeth Gymraeg, ac yn enghraifft berffaith o beth gellir ei gyflawni trwy rapio'n ddwyieithog. "
Dywedodd Zoe Pritchard, Gweithiwr Prosiect i Gymunedau'n Gyntaf Maesgeirchen:
"Roedd y plant a'r bobl ifanc wedi mwynhau gwrando ar Ed yn perfformio, ac yn eu helfen wrth gael y cyfle i ddangos eu sgiliau ar y meicroffon. Roedd hi'n noson wych!".
Mae Bangor yn un o 10 ardal Cynllun Gweithredu Iaith yng Nghymru.
Bwriad y Cynllun yw dod a phobl leol a sefydliadau at ei gilydd er mwyn defnyddio a hyrwyddo'r Iaith Gymraeg. (Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Caren Wyn Roberts ar 01286684 708.
|