大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
Mark McCann (chwith) ac Owen Hughes tu 么l i'r cownter Recordiau'r Cob
Ionawr 2010
Ddechrau'r mis diwethaf roedd un o siopau mwyaf arbennig Stryd Fawr Bangor yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.

Agorodd Recordiau'r Cob yn i Rhagfyr 1979 fel cangen o Recordiau'r Cob Porthmadog, ac ar 5 Rhagfyr 2009 nodwyd y pen-blwydd mewn sawl ffordd.

Roedd cerddoriaeth yn sicr yn rhan o'r dathliadau.

Gan i LP Pink Floyd The Wall gael ei rhyddhau ar yr union ddiwrnod yr agorodd y siop, ar ddiwrnod y pen-blwydd roedd yr albwm honno'n cael ei gwerthu ar CD am yr un pris yn union ag yr oedd yn cael ei gwerthu yn 么l yn '79.

Bu perfformiad gan Henry Priestman, canwr, gitarydd a chwaraewr allweddellau ac awdur nifer o ganeuon poblogaidd gyda grwpiau megis y Yachts, a The Christians yn ystod yr holl gyfnod l y bu'r siop yn agored.

Ond nid edrych yn 么l yn unig a wnaed, oherwydd roedd Banda Bacana, sef band diweddaraf Owen Hughes, perchennog y siop, yn chwarae hefyd.

Bwriad Owen wrth ddod i weithio i'r siop fel rheolwr cynorthwyol oedd aros am chwe wythnos, ond aeth yr wythnosau'n fisoedd ac yna'n flynyddoedd, ac yn 1995 daeth yn rheolwr ar y siop.

Heddiw, mae'n dal i gyfuno rhedeg y siop a'i waith fel drymiwr amryfal fandiau ac fel hyrwyddwr bandiau hefyd, ac mae wrth ei fodd yn gwneud hynny.

"Mae'n wir ei bod hi'n lot caletach cynnal y busnes nag oedd hi, ond dwi'n dal i fethu coelio 'mod i mor lwcus a chael bywoliaeth o rywbeth dwi'n ei fwynhau cymaint," meddai Owen, sydd wedi gweld sawl tro ar fyd yn y diwydiant cerddoriaeth.

Yn 么l cyfrol a gafodd ei chyhoeddi y llynedd, mae dros 500 o siopau o'r fath wedi cau ym Mhrydain yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf yn unig.

Mae Recordiau'r Cob - siop Porthmadog a siop Bangor - ymhlith y rhai sy'n cael sylw yn Last Shop Standing fel enghreifftiau o'r siopau sydd rywsut wedi goroesi yn nannedd cystadleuaeth ffyrnig o du siopau cadwyn, yr archfarchnad卢oedd a'r we.

Awdur y llyfr yw Graham Jones, dosbarthwr annibynnol a fyddai'n galw'n gyson yn siopau'r Cob yn ystod y 1980au.

Gyda'i dewis eang o gerddoriaeth - yn cael ei werthu bob amser mewn bagiau melyn - ei hawyrgylch anffurfiol braf a staff sydd bob amser yn barod i helpu, mae Recordiau'r Cob wedi dod yn dipyn o sefydliad ym Mangor.

Dylai pawb ohonom ddal i'w chefnogi fel y gall fynd ymlaen yn hyderus am y 40fed penblwydd!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy