Yn ystod y tymor, ymaelododd yr AS Betty Williams a'r AC Denise Idris Jones â'r gymdeithas, ond cafodd y fraint o fod y pum canfed aelod ei roi i'r canwr o Landegfan, Aled Jones. Ysgrifennodd y canwr yn ei hunangofiant iddo fod yn gefnogwr eithaf selog i'r Dinasyddion pan oedd yn fachgen a'i fod yn parhau i ddilyn hynt a helynt y clwb.
Cyflwynwyd tystysgrif yn cofnodi ei aelodaeth arbennig i Aled Jones cyn ei gyngerdd diweddar yn Theatr y Pafiliwn Rhyl. Yn bresennol yr oedd Geraint Jones (Is-gadeirydd y Gymdeithas), Nigel Pickavance (Ysgrifennydd) ac Ian Thomas (Swyddog Raffl).
Mae'r gymdeithas wedi cyfrannu dros £15,000 i goffrau'r Clwb Pêl-droed eleni, a bydd y gweithgareddau yn parhau dros yr haf gyda Ras Hwyaid ar 7 Mai a Thwrnamaint Pêl-droed i blant ac oedolion ar 7/8 Gorffennaf.
Ar sail nifer yr aelodaeth, mae'r gymdeithas hefyd wedi ymaelodi â Ffederasiwn y Cefnogwyr Pêl-droed, yr unig glwb o Gynghrair Cenedlaethol Cymru i wneud hynny.
Cewch fwy o wybodaeth am waith y gymdeithas ar ei gwefan (www.bcfcsa.com) neu gan Nigel Pickavance ar 07944 694801.
|