Bertolt Brecht – agwedd at y theatr
Mae llawer o bobl yn sôn am wneud y gynulleidfa'n estron i'r ddrama ar y llwyfan, ond yr hyn ydy verfremdungseffeckt ydy 'dieithrio' neu 'bellhau'. Mae’n cael ei alw'n effaith dieithrio neu caiff y term effaith 'v' ei ddefnyddio ac mae llawer o ffyrdd o ddefnyddio’r dechneg.
Roedd Brecht yn bendant yn dymuno cadw diddordeb y gynulleidfa yn y ddrama neu byddai ei neges yn cael ei cholli. Yr hyn roedd am ei osgoi oedd buddsoddi’n emosiynol yn y cymeriadau.
Mae ei agwedd at y theatr yn gweddu i waith sydd â neges wleidyddol, cymdeithasol neu foesol. Efallai dy fod am i'r gynulleidfa ystyried yr ystyr mewn dameg (stori gyda neges foesol ehangach). Neu ymchwilio i thema neu broblem a gwneud i dy gynulleidfa ystyried amrywiol safbwyntiau neu ochrau i ddadl? Os felly mae modd i ti ddysgu llawer o'r dyfeisiadau ymbellhau sy'n cael eu defnyddio mewn theatr Frechtaidd.
Mae Theatr Epig (theatr Frechtaidd) yn torri'r bedwaredd wal, sef y wal ddychmygol rhwng yr actorion ac aelodau’r gynulleidfa sy'n eu cadw'n sylwedyddion. Maen nhw'n aelodau gweithredol o'r profiad theatrig gan eu bod yn gorfod parhau i feddwl drwy'r ddrama, heb ymroi'n llwyr i'r digwyddiadau.