Symbylu gwaith dyfeisiedig
Efallai y byddi di'n dewis mabwysiadu technegau Brechtaidd os bydd gofyn i ti ddefnyddio syniadau ymarferwr pwysig yn dy waith. Neu efallai y bydd gwrthrychedd yr arddull yn addas i dy ddarn di. Mae nifer o elfennau y dylet ti eu hystyried os byddi di am greu darn yn yr arddull hwn:
- Mae angen i'r naratif gael ei adrodd mewn arddull montageTechneg o鈥檙 byd ffilmiau lle mae darnau o ffilmiau gwahanol yn cael eu dewis, eu golygu a'u gosod at ei gilydd i greu cyfanwaith..
- Technegau i dorri'rpedwaredd walPedwaredd wal ddychmygol rhwng y gynulleidfa a'r actorion i helpu i greu argraff o realaeth ar y llwyfan., gan sicrhau bod y gynulleidfa'n ymwybodol o'r ffaith ei bod yn gwylio drama a dinistrio unrhyw rith eu bod yn gwylio bywyd real.
- Defnyddio adroddwr. Gan fod y cymeriad hwn y tu allan i fframwaith y cymeriadau, mae'n newid y berthynas 芒鈥檙 gynulleidfa.
- Defnyddio caneuon neu gerddoriaeth. Mae caneuon a dawns yn debygol o arwain at wylio mwy gwrthrychol, yn enwedig os ydy'r hyn rwyt ti'n ei wylio'n ddifrifol yn hytrach nag awyrgylch siwgraidd drama gerdd nodweddiadol.
- Defnyddio technoleg. Os byddi di鈥檔 taflunio lluniau ar sgrin mewn sioe sleidiau neu os oes gen ti ddelwedd lonydd drwy bob golygfa, mae'n gwneud i'r gynulleidfa ddadansoddi'n fwy trylwyr.
- Defnyddio arwyddion. Os bydd actor yn dechrau pob golygfa gyda phlacard gydag enw'r olygfa neu os oes gen ti fwrdd sy'n cael ei newid ar ddechrau pob golygfa, byddi di鈥檔 atgoffa'r gynulleidfa am y ffaith ei bod yn gwylio drama.
- Defnyddio delweddau wedi eu rhewi/tableauFfr芒m fferru neu ddelwedd lonydd ydy tableau. Lluosog tableau ydy tableaux.. Mae hyn yn amlwg yn annaturiol yn ystyr syml y gair, a dylai wneud i'r gynulleidfa feddwl am yr ennyd sy'n cael ei rewi.