大象传媒

Theatr Epig a BrechtTheatr Epig

Mae syniadau'r dramodydd, Bertolt Brecht, yn ddylanwadol iawn. Roedd am wneud i'r gynulleidfa feddwl ac roedd yn defnyddio technegau i'w hatgoffa nhw eu bod yn gwylio theatr ac nid bywyd go iawn.

Part of DramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Theatr Epig

Mae'r syniad o a diffyg empathi'n datblygu i greu cysyniad o theatr sy'n cael ei alw'n Theatr Epig, yn wahanol i'r hyn roedd Brecht yn ei alw'n Theatr Ddramatig.

Mewn Theatr Ddramatig ceir plot neu stori. Rydyn ni'n mynd i'r theatr gan ddisgwyl i'r plot gael ei osod o'n blaenau a'r cwestiynau i gyd yn cael eu hateb yn y diwedd. Dydy Theatr Epig ddim yn ceisio sicrhau'r taclusrwydd hwn. Mae'r naratif yn dechrau ac yn gorffen, gan adael cwestiynau heb eu datrys, ac yn codi cwestiynau I aelodau'r gynulleidfa yngl欧n 芒 beth fydden nhw'n ei wneud. Yn ddelfrydol bydd Theatr Epig yn ysbrydoliaeth i weithredu tra bod Brecht yn meddwl bod Theatr Ddramatig yn adloniant. Ym marn Brecht dylai Theatr Ddramatig roi profiad emosiynol i'r gynulleidfa am y cyfnod y mae鈥檔 ei dreulio yn y theatr yn unig.

Mae'r golygfeydd yn episodig, sy'n golygu eu bod yn sefyll ar eu pen eu hunain ac wedi eu cyfansoddi mewn pytiau byr yn hytrach na chreu tensiwn yn raddol drwy'r ddrama.

Naratif llinellol sydd gan Theatr Ddramatig sy'n golygu bod y digwyddiadau mewn trefn gronolegol. Yn aml bydd gan Theatr Epig naratif toredig sy'n anllinellol ac yn neidio o un cyfnod amser i鈥檙 llall.

Mae Theatr Epig yn dangos dadl. Mae'n ddatganiad gwleidyddol clir. Mae'r gynulleidfa'n parhau i fod yn wrthrychol ac yn gwylio neu gyfres o olygfeydd. Wrth sefyll y tu allan i'r digwyddiadau'n emosiynol, mae鈥檙 gynulleidfa鈥檔 gallu astudio'r stori'n wrthrychol a dylai allu gweld gwirioneddau cymdeithasol.

Related links