Spass
Ystyr spass yn llythrennol ydy 'hwyl'. Roedd Brecht yn dymuno gwneud i'w gynulleidfa feddwl. Roedd yn sylweddoli wrth i ni chwerthin ein bod hefyd yn meddwl. Cymaint felly fel y cafodd ei alw'n 'bostmon' gan y dramodydd Eug猫ne Ionesco am ei fod yn anfon negeseuon drwy'r amser. Serch hynny dydy gwaith Brechtaidd ddim yn ddiflas ac yn bendant dyw'r gwaith ddim bob amser yn ddifrifol chwaith. Hyd yn oed os ydy鈥檙 neges ei hun yn ddifrifol roedd Brecht yn sylweddoli y gallai comedi fod yn ffordd ragorol o ennyn diddordeb y gynulleidfa a'i gorfodi i feddwl am bethau. Gallai triniaeth gomig o bwnc difrifol synnu cynulleidfa a鈥檌 gorfodi i benderfynu beth ydy ei barn.
Roedd spass hefyd yn ffordd ragorol o dorri'r tensiwn. Roedd angen i Brecht newid y tensiwn cynyddol i atal y gynulleidfa rhag dilyn cymeriadau ar eu taith emosiynol. Mae鈥檔 bosib ei ddefnyddio ar ffurf c芒n gomig, slapsticComedi gorfforol gyda chymeriadau stoc, plot ffarsaidd, trais gwneud a dychan i ddiddanu'r gynulleidfa. neu gomedi corfforol neu hyd yn oed rhywun yn gwneud perfformiad 'stand-up'. Hurtrwydd ydy hyn i bob pwrpas ond yn aml mae'n gwneud sylw cymdeithasol cryf o ran y ffordd y caiff ei ddefnyddio i drin pwnc difrifol.
Er enghraifft gallai gwaith difrifol iawn yn trafod hunanladdiad dorri'r rhediad ar adeg allweddol yn ystod anhapusrwydd cymeriad i gyflwyno parodiEfelychu arddull neu genre a'u gorliwio er mwyn creu comedi. o hysbyseb Americanaidd:
鈥楾eimlo'n isel? Iselder ysbryd? Dim ffordd allan? Beth sydd ei angen arnat ti yw 'Diwedd y Byd'...'
Gestus
Roedd Brecht yn awyddus i wneud yn si诺r fod y gynulleidfa'n deall bwriadau'r perfformiad. Felly roedd pob ystum unigol yn bwysig. Gyda'i actorion astudiodd ffotograffau o ymarferion y dram芒u i sicrhau bod pob symudiad yn gweithio'n effeithiol. A allai'r gynulleidfa ddweud beth oedd yn digwydd yn yr olygfa drwy ystumiau'r actor yn unig?
Doedd Brecht ddim yn dymuno i'w gymeriadau fod yn gymeriad ar y llwyfan, dim ond eu dangos fel math o berson. Mae cymeriadau'n cynrychioli'r math hwnnw o berson. Er enghraifft, mae'r pennaeth sy'n llwgr ac sy鈥檔 ysmygu sig芒r dew wrth i'w weithwyr lwgu'n cynrychioli pob pennaeth sy'n elwa drwy ecsbloetio pobl eraill. Am y rheswm hwn bydd Brecht yn aml yn cyfeirio at ei gymeriadau gydag enwau sy'n archdeipiau, fel 'Y Milwr' neu 'Y Ferch'.
Ystum neu symudiad cymeriad sy'n cael ei ddefnyddio gan yr actor ac sy'n cipio ennyd neu agwedd yn hytrach na thwrio'n ddwfn i'w emosiwn yw gestus. Mae鈥檙 dehongliad yn cael ei adeiladu ar r么l gymdeithasol y cymeriad a pham mae angen iddo weithredu fel y mae, yn hytrach nag edrych yn fewnol ar gymhelliad emosiynol. Felly rydyn ni'n beirniadu'r cymeriad a'i sefyllfa, yn hytrach na dim ond cydymdeimlo.
Ystum gyda sylwebaeth gymdeithasol ydy hyn. Er enghraifft, mae milwr sy'n rhoi sal铆wt wrth orymdeithio ar draws y llwyfan yn gwneud ystum. Ond os byddai'n saliwtio wrth orymdeithio ar draws llwyfan llawn cyrff marw, byddai'n gestus, ac yn sylwebaeth gymdeithasol am y math o berson mae'n ei gynrychioli.
Mae sgrech dawel y Fam Dewrder yn wyneb marwolaeth ei hunig fab yn rhyfedd. Felly rydyn ni'n holi pam mae鈥檔 rhaid iddi hi guddio ei theimladau yn hytrach nag ymgolli yn yr emosiwn. Rydyn ni'n ymateb fel bodau dynol sy'n meddwl
, fel y dywedodd Helene Weigel 鈥 gwraig a phartner gwaith Brecht.