大象传媒

Naturiolaeth a StanislavskiDefnyddio technegau Stanislavski

Mae syniadau Konstantin Stanislavski, yr ymarferwr Rwsiaidd, yn ddylanwadol iawn. Roedd e'n credu mewn perfformiadau naturiolaidd sydd mor realistig 芒 phosib. Galli di ddefnyddio ei dechnegau hefyd.

Part of DramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Defnyddio technegau Stanislavski

Gallai actor ymdrin 芒 sgript gan ddefnyddio technegau Stanislavski a dadansoddi'r sgript ar gyfer gwahanol amcanion. Dyma rai o dechnegau mwyaf poblogaidd Stanislavski:

Cylchoedd sylw

Roedd Stanislavski'n credu bod angen ymdeimlad o ynysu ar actorion er mwyn cynhyrchu cymeriad ac osgoi tensiwn diangen. Roedd angen iddyn nhw ganolbwyntio arnyn nhw eu hunain. Hwn ydy'r cylch sylw cyntaf. Roedd Stanislavski'n cyfeirio at hyn fel unigedd mewn man cyhoeddus. Y tu hwnt i hyn, gallai'r actor, yn yr 'ail gylch' fod yn ymwybodol o'r cymeriad y mae'n siarad ag ef ac yn y 'trydydd cylch', gweddill y cynhyrchiad. Nid oes unrhyw ymwybyddiaeth uniongyrchol o'r gynulleidfa yn y broses hon. Gellir cyflawni'r cylchoedd sylw hyn drwy ffocws a chanolbwyntio.

Tempo-Rhythm

Roedd Stanislavski'n teimlo bod a rhythm mewnol ac allanol yn hanfodol os oedd actor am gyflawni symudiadau mewn modd dilys a'u cysylltu 芒 mynegiant o emosiynau a theimladau. Roedd yn cysylltu tempo 芒 chyflymder gweithred neu deimlad, a rhythm 芒 dwyster neu ddyfnder y profiad.

Gweithredoedd corfforol

Os ydy cerddor yn chwarae offeryn cerddorol, mae'n sicrhau cyn dechrau bod yr offeryn wedi ei diwnio er mwyn gallu chwarae'r nodau cywir a gwneud cyfiawnder 芒 gwaith y cyfansoddwr. Roedd Stanislavski'n teimlo y dylai actor feddwl am ei gorff yn yr un modd. Dylai gael ei hyfforddi neu ei diwnio fel bod yr actor yn gallu galw arno i berfformio'n effeithiol. Doedd Stanislavski ddim yn fodlon derbyn na allai actor ymdopi 芒 gofynion corfforol unrhyw ran. Gallai gofynion y rhan fod yn athletig, ond gallen nhw hefyd ymwneud 芒 ph诺er lleisiol neu ddwyster emosiynol.

Gwaith byrfyfyr

Mae gwaith byrfyfyr yn rhan hanfodol o'r broses ymarfer ac roedd Stanislavski am i'r actor estyn ymhell i mewn iddo'i hun wrth greu'r rhan.

Pe bai'r holl actorion mewn cynhyrchiad yn mynd 芒'u hemosiynau i'r cylch sylw cyntaf, mae'n hawdd gweld y gallai cynhyrchiad golli ei . Tasg y cyfarwyddwr ydy cadw'r cydlyniad hwnnw, ac ar yr un pryd tynnu cymaint 芒 phosib o wirionedd o berfformiad pob perfformiwr.

Related links