Method gweithgaredd corfforol
Dychmyga weithgaredd syml megis glanhau dy ddannedd ac yna dychmyga 诺r yn glanhau ei ddannedd gan geisio meddwl sut i ddweud wrth ei wraig am ei feistres. Mae hyn yn enghraifft syml sy'n dangos sut y gall gweithred gorfforol ryddhau'r emosiynau angenrheidiol.
Is-destun
Gellir galw sgript drama yn destun. Yr is-destun ydy'r ystyr gwirioneddol a'r cymhelliad y tu 么l i'r llinellau sy'n cael eu dweud a'r gweithredoedd. Er enghraifft gallai'r arwres ddweud wrth yr arwr 鈥楻wy'n dy garu di鈥 a gallen ni dybio mai dyma ydy'r diwedd hapus i stori dylwyth teg. Ond byddai'n ei fynegi'n wahanol iawn pe bai hi'n ofni ei fod e ar fin cerdded allan o'r berthynas.
Os
Dywedodd Stanislavski y dylai'r cymeriad ateb y cwestiwn 鈥楤eth fyddwn i'n ei wneud os byddwn i yn y sefyllfa hon?鈥 Gelwir y dechneg hon hefyd yn os hudol ac mae'n golygu bod yr actor yn rhoi ei hun yn sefyllfa'r cymeriad. Mae hyn yn ysgogi'r cymhelliad i alluogi'r actor i chwarae'r rhan.