Theatr Gelfyddyd Mosgo
Sefydlwyd y cwmni ym 1898 gan Stanislavski a Vladimir Nemirovich-Danchenko. Roedd yn llwyddiannus ac yn hynod o ddylanwadol ym myd y theatr a goroesodd tan iddo rannu'n ddau gwmni ym 1987. Wrth reswm, cafodd ei ddylanwadu gan y cythrwfl gwleidyddol yn RwsiaRhoddodd Chwyldro Rwsia ddiwedd ar deyrnasiad y Tsariaid a daeth llywodraeth y Bolsheviks (Comiwnyddion) i rym. o 1917 ymlaen.
Pan oedd Stalin yn rheoli Rwsia, roedd Stanislavski yn awyddus i'w gadw'n hapus er mwyn sicrhau y byddai'r theatr yn goroesi. Yn ystod y cyfnod hwn roedd gwaith y cwmni'n adlewyrchu llais gwleidyddol yr Undeb Sofietaidd, sef realaeth sosialaethY gred y dylai cymdeithas fod yn ddi-ddosbarth ac y dylai'r gymuned gyfan fod yn berchen ar eiddo a chyfoeth, yn hytrach nag unigolion.. Roedd Stanislavski yn gallu parhau i ddilyn realaethYmddangos yn naturiol; dangos manylion realistig. ond roedd dram芒u鈥檙 cwmni'n hyrwyddo credoau gwleidyddol sosialaidd. Parhaodd hyn tan 1970 pan gafwyd symudiad yn 么l at hanfod dull gweithredu Stanislavski.
Gwranda ar y rhaglen Saesneg hon gan 大象传媒 Radio 3 am waith a bywyd Stanislavski ar benblwydd ei eni 150 mlynedd yn 么l.