Amcan, uwch-amcan a'r llinyn cyswllt
Amcan ydy'r rheswm am ein gweithredoedd. Beth ydyn ni'n ceisio ei gyflawni? Mae bywyd, pobl ac amgylchiadau yn codi rhwystrau鈥檔 barhaus. Mae pob un o'r rhwystrau hyn yn cyflwyno amcan i ni, sef eu goresgyn. Paid 芒 cheisio mynegi ystyr dy amcan gydag enw, ond bob amser gyda berf, ee 'Rwy'n dymuno...鈥
Amcan trosfwaol ydy'r uwch-amcan, sydd fel arfer yn gysylltiedig 芒 chanlyniad cyffredinol y ddrama. Rydyn ni'n defnyddio'r gair uwch-amcan wrth s么n am hanfod y syniad, y craidd, a ddarparodd y sbardun ar gyfer ysgrifennu'r ddrama. Mae amcanion cymeriad yn debygol o fod yn gamau ar y daith at yr uwch-amcan. Os caiff y daith honno ei hystyried fel llwybr clir at yr uwch-amcan, dyna dy linyn cyswllt yn ei lle.
Mae'r fideo Saesneg hwn yn dangos gr诺p o actorion o Shared Experience yn gweithio gyda'r cyfarwyddwr Polly Teale ar amcanion sy'n gwrthdaro mewn golygfa o'r ddrama Speechless. Wyt ti'n gallu gweld pa mor gymhleth mae amcanion yn gallu bod?
Gweithio at uwch-amcan
Yn nrama Sera Moore Williams, Mwnci ar D芒n, uwch-amcan y cymeriad Hen yw ailadeiladu ei berthynas doredig gyda'i ferch. Uwch-amcan Mwnci ydy dianc rhag ei fywyd bob dydd ac ymuno 芒'r fyddin. Uwch-amcan Shell ydy ennill cariad Mwnci. Yn y pen draw mae eu holl amcanion drwy'r ddrama yn gweithio at un uwch-amcan, felly ceir llinyn cyswllt. Mae'r llinyn cyswllt hon o weithredu yn bywiogi'r holl unedau ac amcanion llai ac yn eu cyfeirio at yr uwch-amcan. O hynny ymlaen maen nhw'n gweithio tuag at nod gyffredin.