Naturiolaeth a realaeth
Gall fod yn eithaf anodd gweld y gwahaniaeth rhwng naturiolaeth a realaeth. Ond mae nodweddion gwahanol i dy helpu i ddeall y derminoleg. Symudiad theatrig yn y 19eg ganrif oedd realaeth, oedd yn ceisio portreadu bywyd go iawn ar y llwyfan. Parhaodd Stanislavski i ddilyn realaeth yn frwd drwy gydol ei fywyd gwaith.
Mae naturiolaeth yn cael ei ddefnyddio鈥檔 aml i gyfeirio at yr un pethau ond gall hefyd olygu'r gred bod cymeriad dynol yn cael ei ffurfio gan yr hyn mae wedi ei etifeddu gan ei deulu a'i amgylchedd. Mae'n debyg mai gyda鈥檙 nofelydd o Ffrainc, 脡mile Zola y cysylltir y symudiad naturiolaeth llenyddol yn bennaf.
Cofia fod Stanislavski wedi ymrwymo i realaeth drwy gydol ei yrfa ac y daeth i sefyll yn erbyn y syniad gwyddonol o naturiolaeth. Cofia hefyd mai arbrofi oedd ei agwedd allweddol at y theatr. Gall fod cynyrchiadau nodweddiadol o ddram芒u Chekhov gyda setiau eithriadol o realistig ond roedd Stanislavski hefyd, er enghraifft, yn ymchwilio i symbolaethDefnyddio gwrthrych neu ddelwedd i gynrychioli rhywbeth arall. Cyfleu syniad mewn modd barddonol/symbolaidd yn hytrach na llythrennol.. Aeth ati i wneud cynhyrchiad a ganmolwyd yn fawr o鈥檙 ddrama Othello gan Shakespeare, er ei fod yn ymddangos bod ei barddoniaeth y tu hwnt i ffiniau cynhyrchiad realaidd.
Os wyt ti鈥檔 trafod neu鈥檔 ystyried Stanislavski fel ymarferwr i fodelu dy waith arno, gwna'n si诺r dy fod yn symud y tu hwnt i gyffredinoli. Mae drama Henrik Ibsen, Gengangere (Ghosts yn Saesneg) yn enghraifft dda o ddrama sy'n realistig ac yn defnyddio symbolau pwerus megis yr haul. Yn y ddrama mae'r haul yn codi ac yn disgleirio ac yn taflu goleuni ar y cymeriadau nad oes modd ei gyrraedd. Mae鈥檙 cymeriadau鈥檔 cael eu dinistrio gan siffilisClefyd sy鈥檔 deillio o gysylltiad rhywiol sy'n achosi i'r ymennydd a'r corff ddirywio os nad ydy e'n cael ei drin., clefyd sydd ynddo'i hun yn cysylltu'n symbolaidd ag ymddygiad llwgr y tad yn y ddrama. Paid byth 芒 cheisio gosod dramodydd neu ymarferydd theatr mewn un garfan rhy gul.