Yn dilyn ei perfformiad yn y Cwps yn Aberystwyth mae'n nhw wedi ennill eu ffordd i rownd olaf cystadleuaeth 'Brwydr y Bandiau' Cymdeithas yr laith a fydd yn cael ei chynnal yn un o glybiau nos Casnewydd ar nos Fercher yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'r band hefyd wedi derbyn gwahoddiad i berfformio yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd eleni gyda Dafydd Iwan ac Elin Fflur ym Mhentref yr Ieuenctid. Aelodau'r gr诺p yw Dylan Jones, Dafydd Driver, Ifan Rees, Deiniol Parry a Rhys Evans. Hoffai' aelodau'r band ddiolch i bawb, ac yn arbennig i C.Ff. I Mydroilyn a Caerwedros am eu cefnogaeth. Diolch hefyd i Mike Eads am eu hyfforddi ac i Catrin Owens am ei help hitha. Llongyfarchiadau a phob lwc i'r bechgyn! JAVA Band JAVA, sef criw o fechgyn o Ysgol Llanbed a enillodd gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 (Radio Cymru). 'Roedd tair rownd i'r gystadleuaeth a daethant i'r brig yn y rownd gyntaf allan o tua 30 band, i'r brig eto yn yr ail rownd allan o 12 band ac Ennill y Rownd Derfynol oedd a 6 o fandiau. Fel gwobr byddant yn chwarae ar nos Sadwrn ola' Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd cael gwneud CD a Fideo Miwsig chael taith o amgylch Cymru yn chwarae yn ogystal 芒 Sesiwn fyw ar C2. Y beirniaid yn y Stiwdio oedd: Rhodri Llwyd (Gr诺p Cerrig Melys) ac Owen Powell (Catatonia). Aelodau'r band yw - Rhodri Daniel (Git芒r), Ifan Gwilym (Git芒r F芒s), Rhodri Lewis (ddrymiau) a Daniel Davies (Llais). Pob hwyl i'r bechgyn yn y dyfodol.
|