Ganwyd William John Charles yn Cwmdu ger Abertawe i deulu digon tlawd ei byd. Dywedir mai ffa ar dost oedd pryd arferol y teulu gyda ffowlyn ar ddydd Nadolig.
'Roedd John Charles yn ddyn cryf a chadarn yn mesur 6 troedfedd 2 fodfedd ac yn aml byddai'n ymddangos fel cawr ar y cae oherwydd ei daldra a'i gryfder. Er hyn 'roedd hefyd yn ystwyth ac yn gyflym ar ei draed ac fe'i disgrifiwyd fel un o athletwyr gorau yr ugeinfed ganrif. Ymunodd John Charles 芒 Juventus, un o' r clybiau enwocaf yn y byd, yn 1957. 'Roedd Juventus wedi gorffen yn agos i waelod y tabl y tymor cyn i John Charles ymuno 芒 nhw. Ond yn ystod y pum tymor nesaf fe wnaethant ennill pencampwriaeth yr Eidal, y Scudetto tair o weithiau gyda John Charles yn sgorio 93 gol mewn 155 g锚m. 'Roedd hyn yn record anhygoel mewn cynghrair sy'n enwog am fod yn amddiffynnol a negyddol. Dewiswyd John Charles rai blynyddoedd yn 么l fel y chwaraewr tramor gorau erioed i chwarae yn yr Eidal gan guro pobl fel Michel Platini, Marco Van Basten, Zinedise Zidane a hyd yn oed y chwedlonol Diego Maradona. Er cystal oedd record sgorio John Charles nid yw hyn ond hanner y stori. 'Roedd yna rywbeth arall a oedd yn gosod John Charles ar wah芒n i bawb arall a hynny oedd y ffordd 'roedd yn ymddwyn at y cae. Er gwaethaf ei faint ni fyddai byth yn defnyddio ei gorff mawr a chadarn i ennill mantais annheg. 'Roedd bob amser yn ymddwyn yn gwrtais a bonheddig ar y cae. Mewn g锚m 'local derby' yn erbyn Torino fe wnaeth John Charles neidio am y b锚l a tharo yr amddiffynnwr yn ddamweiniol. 'Roedd yr amddiffynnwr ar lawr a'r llwybr at y g么l yn glir i John Charles. Yn lle rhedeg at y g么l, fe giciodd John Charles y b锚l dros yr ystlys fel bod yr amddiffynnwr yn gallu cael triniaeth. Gweithredoedd fel hyn a nifer o rai tebyg a enillodd iddo'r llysenw y Cawr Addfwyn (The Gentle Giant). Yn wir, ni dderbyniodd garden goch na hyd yn oed garden i felen yn ystod ei yrfa. Y mae yna ryw dristwch yn perthyn i hanes John Charles ar 么l i'w gyfnod ar y brig gyda Juventus ddod i ben. Ar 么l gorffen chwarae bu'n rhedeg tafarndai a siopau chwaraeon ond 'roedd ei natur garedig a'i haelioni yn ei wneud yn hollol anaddas i fod yn ddyn busnes. Arweiniodd hyn at drafferthion ariannol a fu gydag ef am weddill ei oes. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai'r bachgen swil a diymhongar o gyffiniau Abertawe a fagwyd ar 'beans' ar dost yn datblygu i fod yn un o'r chwaraewyr p锚l-droed gorau a welodd y byd erioed? 'Roedd ei gorff tal a chryf yn ei osod yn llythrennol ben ac ysgwydd yn uwch na phawb arall ar y cae. 'Roedd ei sgiliau ar y cae yn ei osod ben ac ysgwydd yn uwch na neb arall. Ond yn fwy na dim 'roedd ei ymddygiad ar y cae yn ei osod ben ac ysgwydd yn uwch na neb arall.
|