大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Actorion cwmni Troed-y-rhiw Wele Ferch y Blodau
Hydref 2008
Blodeuwedd: stori enwog pedwaredd cainc y Mabinogion a drowyd gan Saunders Lewis yn ddrama. Pam fod cwmni o feibion a merched ffarm yn yn ceisio mynd i'r afael 芒'r fath uchelgais? Euros Lewis sy'n cynnig esboniad:

Mae llwyfannu Blodeuwedd yn enghreifftiol o nod a diben y cwmni cydweithredol hwn' medd Euros Lewis, cyfarwyddwr artistig Troed-y-Rhiw.

'Mae ein rhyddid oddi wrth anghenion y theatr fasnachol yn ein galluogi i arbrofi yn ystyrlon: 芒 tharddiadau a thechnegau cymeriadu a pherfformio lawn cymaint 芒'n hawydd a'n penderfyniad i dyrchu i ganol y cwestiynau erch y mae ymdriniaeth Saunders Lewis o'r stori drasig hon yn eu codi. Cofiwch hefyd mai cwestiynu ffiniau serch, cariad, c芒r a chymdeithas - holl natur perthyn a'n perthynas 芒 natur - a wna'r ddrama hon. O ganiad corn hela Gronw Pebr hyd at sgrech Blodeuwedd y dylluan, tirwedd real a chwedl-gyfoethog Cymru yw llwyfan y chwarae' medd Euros.

Chwaraeir Blodeuwedd ei hunan gan Anna ap Robert, swyddog ieuenctid theatr fwyaf gwledig Cymru, Theatr Felin-fach. Rhodri a Hedd ap Hywel - meibion ffarm Garn Fach, Llanrhystud - yw ei gwr truenus, Llew a'i chariad o heliwr, Gronw Pebr. Meleri Williams - merch ffarm Clun Coch, Cwrtnewydd - yw ei morwyn, Rhagnell. A Jaci Evans, Nantegryd, Capel Dewi - un o brif ffermwyr llaeth Dyffryn Teifi - yw Gwydion, y dewin a'i chreawdwr.

I fynd i'r afael 芒 sialensau'r ddrama mae'r cwmni wedi bod yn cydweithio 芒'r cyfarwyddwr Roger Owen (sydd hefyd yn fab ffarm) a'r arbenigwraig corfforol Margaret Ames (gynt o Brith Gof a Dawns Dyfed). 'Mae arwahanrwydd Blodeuwedd oddi wrth ei gwr ac oddi wrth yr holl amgylchfyd cymdeithasol Cymreig yn ganolog i'r gwaith hwn' medd Roger. 'Merch a grewyd o flodau yw hi, heb ei geni'n naturiol ac heb fagwraeth yn y byd. Y mae'r ymchwil corfforol i'w chyflwr a'i chyflyrrau wedi bod yn ganolog i'r cynhyrchiad hwn sy'n seiliedig ar arwahanrwydd Blodeuwedd oddi wrth holl gyd-destun dyn, dynoliaeth a Chymru. Yr unig beth y mae hi'n perthyn iddo go iawn yw'r tirlun.'

Sefydlwyd Cwmni Troed-y-Rhiw dair blynedd yn 么l yn dilyn cyfres o sgyrsiau parthed potensial y ddrama Gymraeg yn festri Troed-y-Rhiw (ym mherfedd gwlad Ceredigion). Ers hynny mae'r cwmni wedi creu 10 o gynhyrchiadau gan gynnwys LINDA (GWRAIG WALDO), MEINI GWAGEDD, EISTEDDFOD CWMFFRADACH, DRWG YN Y CAWS a NOSON BOIS GARN FACH. Ceredigion a Sir G芒r oedd cylch y daith gyntaf ym mis Medi 2005. Erbyn hyn, mae'r cwmni wedi creu partneraieth 芒 dros 40 o gymdogaethau, y rhelyw ohonynt ym mroydd Cymraeg y gorllewin a'r gogledd. Wedi'r daith fer gychwynnol hon mi fydd y cwmni yn teithio Blodeuwedd yn ehangach drwy Gymru yn ystod y misoedd sydd i ddod. 'Ein nod yw porthi meddwl a dychymyg cymdogaethau Cymraeg wrth i ni ymddiried yng nghreadigrwydd chwaraewyr a chynulleidfaoedd yn ddi-wahan' medd Euros.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy