大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Cacen y dathlu Ysgol yn 130 oed
Gorffennaf 2006
Cafwyd tridiau o ddathlu yn ystod wythnos ola' Mai, pan oedd Ysgol Dihewyd yn 130 mlwydd oed.
Bu plant yr ysgol yn diddanu'r gynulleidfa yn y theatr yn Felin-fach ar nos Fercher Mai 24ain. Cafwyd perfformiadau graenus gan y plant i gyd, ac 'roeddent yn hollol gartrefol ar y llwyfan.

Yn yr ail hanner bu'r cyn ddisgyblion yn dangos eu doniau amrywiol. Yn ystod yr egwyl tynnwyd raffl. Y gwobrau oedd: llun dyfrliw o'r ysgol a enillwyd gan Mr. W. Jones, Derwen Gam; clustog i ddathlu'r achlysur a'r enillydd oedd Mrs. Margaret Davies, T欧 Coch. Enillydd y pl芒t gyda llun o'r ysgol arno oedd Mrs. Glenys Edwards, Pennant. Llywydd y noson oedd Mrs. Eulanwy Shareem, (Foel gynt) a fu'n hel atgofion o'r amser hapus a dreuliodd yn ysgol Dihewyd.

Dydd Sadwrn, Mai 27ain, er gwaetha'r tywydd diflas yn y bore, mwynhaodd pawb Ffair Dalis. 'Roedd y neuadd yn llawn o bobl yn prynu nwyddau o'r stondinau amrywiol. Ein gwraig w芒dd oedd Mrs. Carol Mitchell (Castle Hill) a dorrodd gacen y dathlu a chafwyd araith bwrpasol ganddi. Yn ystod y prynhawn gwelwyd nifer o fal诺nau lliwgar yn hedfan ar draws y dyffryn a phawb yn gobeithio y byddai ei balwn nhw yn hedfan yn bell dros y m么r er mwyn ennill gwobr.

Bwyd a dawnsio
'Roedd awydd bwyd ar bawb erbyn hyn a chafwyd barbiciw blasus yn yr haul cyn mynd ati i ddawnsio yn y twmpas dawns oedd dan ofal Mr. Erwyd Howells. Aeth pawb adref wedi blino ond wedi mwynhau diwrnod o ddathlu.

I gloi'r dathliadau cafwyd Cymanfa Ganu ar nos Sul, Mai 28ain yng Nghapel Bethlehem Dihewyd. Mrs. Beti Davies (Ffosdwn gynt) oedd yn arwain y canu a'r gyfeilyddes oedd Miss Hilary- Owen (Pantygwiail). Bu'r ddwy yn gweithio yn galed er mwyn i r canu fod yn hwyliog. 'Roedd yn braf gweld y capel yn llawn a phawb yn mwynhau canu yr emynau. Llywydd y noson oedd Mr. Dewi Davies, (Yr Ynys) a chafwyd ganddo yntau araith werthfawrogol o'r amser a dreuliodd yn Ysgol Dihewyd.

Dymuna Staff a Phlant Ysgol Gynradd Dihewyd ddiolch o galon i bawb am eich cefnogaeth yn ystod yr wythnos ddathlu. Codwyd swm anrhydeddus o dros wyth mil o bunnau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy