大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Cyflwyno Mr. Roger Williams yng ngynhadledd prifathrawon y Sir. Cyfarwyddwr addysg yn ymddeol
Rhagfyr 2004
Yn ddiweddar fe ymddeolodd Roger Williams ar 么l cyfnod o bron ugain mlynedd o wasanaeth fel Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion a Swyddog Addysg Rhanbarthol.

Dros y misoedd diwethaf bu'r gymuned addysgol yng Ngheredigion yn talu teyrnged iddo am ei ymdrechion sylweddol dros blant a phobl ifanc y Sir.

Cyfeiriodd Penaethiaid ysgolion, Cynghorwyr Sir a chyd-swyddogion fel ei gilydd at y safonau academaidd uchel y llwyddwyd i'w cyrraedd yn ystod y cyfnod y bu ef wrth y llyw. Rhoddodd sylw dyledus hefyd i ddarparu hyfforddiant o safon ar gyfer athrawon a chyfoethogi profiadau disgyblion yn yr ystafell ddosbarth ac yn allgyrsiol. Yn dilyn arolwg diweddar o 'Wasanaeth Gwella Ysgolion' yr Adran Addysg gan Estyn a'r Comisiwn Archwilio dyfarnwyd bod safon y gwasanaeth yn 'Rhagorol' a'r tebygrwydd o wella hefyd yn 'Rhagorol'. Llwyddwyd i sicrhau hyn trwy feithrin cydweithio a chyd-dynnu effeithiol rhwng yr holl bartneriaid sy'n ymwneud a darparu'r gwasanaeth.

Yn eu cynhadledd dymhorol yng Nhyglyn Aeron cyflwynodd Penaethiaid yr ysgolion cynradd ddarlun gwreiddiol gan Aneurin Jones i Mr. Williams tra derbyniodd greadigaeth artistig, ddiddorol o flodau metel gan Benaethiaid yr ysgolion uwchradd.

Un o'r prif uchafbwyntiau fu perfformiad gan g么r o 300 0 blant blwyddyn 6 o bob ysgol gynradd yn y Sir o dan arweiniad Emyr Wynne Jones, Ymgynghorydd Cerdd, mewn cyngerdd yn y Neuadd Fawr, Aberystwyth. Cyfansoddwyd cerdd bwrpasol gan y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Pennaeth Ysgol Uwchradd Tregaron, a'i gosod igerddoriaeth gan Meirianwen Jones Williams, Cwmann, Llanbed, myfyrwraig yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth. Cyflwynwyd copi o'r geiriau a'r gerddoriaeth wedi'u fframio ynghyd a Chryno Ddisg o'r perfformiad i Mr. Williams.

Derbyniodd Mr. Williams dysteb ariannol hael gan staff presennol a chyn-staff yr Adran Addysg ynghyd a Chywydd Cyfarch a gomisiynwyd oddi wrth y Prifardd Idris Reynolds, a hwnnw wedi'i lythrennu'n gain a'i fframio gan Dawn Thomas, athrawes yn Ysgol Gyfun Aberaeron.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy