大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Tom Edwards Anrhydedd i Tom Edwards
Mawrth 2008
Anrhydeddwyd y Bnr. Tom Edwards, 芒'r Fedal Gee am ei ffyddlondeb i'r Ysgol Sul.

Ar ddydd Gwener, 25ain o Ionawr 2008 anrhydeddwyd y Bnr Tom Edwards, Pencwm, Pennant 芒'r Fedal Gee am ei ffyddlondeb i'r Ysgol Sul am dros 70 mlynedd. Mae ennill y fedal yma yn anrhydedd arbennig, ac ychydig iawn sy'n cael eu hystyried yn deilwng ohoni. Llongyfarchiadau mawr ichi Mr Edwards. Yma mae Mr Edwards yn olrhain hanes yr achos a'i ymrwymiad yntau i'r Capel a'r Ysgol Sul ar hyd y blynyddoedd:

Cefais fy ngeni ym Mlaenbelan ar fanc Llanddewi Aberarth, ac oherwydd nad oedd Ysgol Sul yng Nghapel Tanybryn ar y pryd, bum yn mynychu'r Ysgol Sul yn festri Eglwys Llanddewi Aberarth dan ofal y ficer y Parchg D Alban Davies, ac mae gennyf dystysgrif dyddiedig Ebrill 1935 wedi ei lofnodi ganddo yn fy meddiant o hyd.

Pan symudodd y teulu i Blaencwm, Pennant yn 1936 euthum i Ysgol Sul y Capel, ac `rwy'n dal i fynychu yno hyd y dydd heddiw. Ym mis Ebrill 1950 gofynnwyd i mi gymeryd at y dosbarth i blant dan 14 oed, ar 么l i'r Henadur Evan Evans, Y.H., Ivy Cottage gael ei benodi yn athro ar ddosbarth y gwragedd hynaf

Codwyd y Capel presennol yn y flwyddyn 1832, y trydydd i'w godi ar yr un safle. Codwyd y Capel cyntaf rhwng 1744 a 1747 gan Morgan Evan Hugh, Tyllwyd ar ei draul ei hun, ond mae'n ddiddorol sylwi mai yn 1768 y dechreuodd yr achos ym Mhennant yn 么l yr hyn a gofnodir. Gwyddom i'r Parchg Daniel Rowlands bregethu yn Eglwys Llanbadarn Trefeglwys ar 22ain o Fai, 1737.

Dechreuwyd yr Ysgol Sul yn y Capel yn 1806 gan David James a oedd yn ysgolfeistr ac a gadwai ysgol ddyddiol ac ysgol nos yn yr hen gapel ac ar hyd yr ardal. Ar anogaeth Thomas Charles o'r Bala y dechreuodd yr ysgol ar y Sul.

Oherwydd fy ffyddlondeb i'r Ysgol Sul cefais fy anrhydeddu ar ddydd Gwener 25ain o Ionawr 2008 yng Nghapel Bethesda, Tymbl, gyda medal a elwir Medal Mr a Mrs Thomas Gee. Mae'n debyg fod Thomas Gee yn berchen ar fusnes cyhoeddi llyfrau yn Sir Ddinbych a gadawodd swm o arian yn ei ewyllys ar gyfer gwobrwyo ffyddloniaid yr ysgol Sul o bob enwad yng Nghymru.

Yr wyf yn teimlo ei bod yn fraint aruchel fy mod wedi derbyn y fedal hon. Gan nad oes gweinidog gennym ni ym Mhennant ar hyn o bryd, carem ddiolch i'r Parchg Dilwyn O Jones am fy enwebu. Mae'n ddiddorol hefyd nodi fod dau arall o Gapel Pennant wedi derbyn y fedal yma yn eu dydd, sef Mr. David Jenkins, Cartrefle yn 1962, Mr. Dafydd Jones, Frongoy yn 1963. Hefyd derbyniodd dwy aelod arall dystysgrif Mr a Mrs Thomas Gee, sef Miss M.M. Jenkins, B.A., H.M.I Cartrefle a Miss Enid Edwards Lanlwyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy