大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Keith Hanson yn ennill cwpan am y gorau yn adran yr oedolion yng ngharnifal Cribyn.  Gydag ef mae Gillian Elisa, y beirniad. Carnifal Cribyn
Awst 2005
Coronwyd tridiau o weithgareddau a gynhaliwyd gan Bwyllgor Henoed ardal Cribyn, gyda charnifal.

Cynhaliwyd llu o weithgareddau dros dridiau gan Bwyllgor Henoed yr ardal. I ddechrau ar y nos Iau, cynhaliwyd Helfa Drysor. Daeth llu o ymgeiswyr a chafwyd llawer o hwyl wrth ddadansoddi'r cliwiau. Aeth un car ar goll, tybed os yw e' wedi cyrraedd 'n么l erbyn hyn!

Yr enillwyr oedd Steve a Margaret, Bronygaer a Cynthia, Banc Villa. Yn ail, Eurwen Blaenwern, Bethan Pensarnfach, Eluned Bryniau a Betty Gerallt ac yn drydydd, Emyr, Olive a Rhydian Delfan. Da iawn chi, 'roedd gwledd yn disgwyl pawb yn 么l yn y pentre'.

'Roedd wyth o d卯mau yn cystadlu yn y gystadleuaeth p锚l-droed ar y nos Wener. Y ddau d卯m a ddaeth i'r brig oedd Cei Newydd a Llambed, gyda th卯m Cei Newydd yn ennill ar y nos Sadwrn. Cyflwynwyd tlysau i'r chwaraewyr a chwpan i'r t卯m buddugol.

Cafwyd cystadlu gwych eto yn y Carnifal ddydd Sadwrn. Y beirniad oedd yr enwog Gillian Elisa (Sabrina ar Pobol y Cwm). Diolch iddi am gloriannu'r cystadleuthau ac am ei chyfraniad ariannol i'r achos. Y cyhoeddwr oedd Alan Henson.

Enillwyd Cwpan Sialens Owerx, Maesyronnen i'r plentyn 芒'r marciau uchaf yn y carnifal ac sy'n byw yn nhalgylch Ysgol Cribyn, gan Ianto, Frongelyn, a'r cwpan am y wisg orau o blith yr oedolion gan Keith Henson.

Yn dilyn, cafwyd y mabolgampau a llawer o fwynh芒d wrth wylio'r cystadlu. Enillwyd Cwpan Sialens Evan Lloyd Davies am Gwrs Menter; Beics gan Jonathan, Dyffryn (dalgylch Ysgol Cribyn yn unig) a ras traws-gwlad gan John Suart, Dwynant. Llywydd y dydd oedd Eilir Jones, Brynderi (gynt o Llechwedd-dderi Uchaf), bachgen a fagwyd yn yr ardal ac sydd wedi aros yn ei filltir sgw芒r. Diolch iddo am araith ddymunol a rhodd anrhydeddus.

Diolch hefyd i swyddogion ac aelodau Pwyllgor yr Henoed am eu gwaith cydwybodol dros yr achos, ac i bawb a fu'n cynorthwyo a chystadlu dros y tridiau i sicrhau llwyddiant y fenter. I bawb hefyd a gefnogodd yn ariannol a chyda'u presenoldeb. Bu'n gyfle gwych i gymdeithasu.


Cyfrannwch

cribynwr
Maw lluniau o Garnifal Cribyn 2005 ar gael ar y wefan hon: http://www.dyffrynaeron.com/llyfrlluniau/


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy