Y tro yma cawn lun o blant bach Ysgol Cribyn yn eistedd tu allan i Eglwys Gadeiriol Tyddewi yng ngofal y diweddar Mrs. Kathleen Davies, Rhydyfran a oedd yn gogyddes yn yr ysgol bryd hynny. Dywedir bod tref yn ddinas os oes ganddi Eglwys Gadeiriol ac mai'r ddinas leiaf ym Mhrydain yw Tyddewi. Mae awyrgylch arbennig yn perthyn i'r ardal hon; bob tro yr af heibio pentref Mathria dod i olwg Cam Lludi (Cam y Llew Du) gallaf adrodd, "a'r hud ar Ddyfed ydoedd". Mae'r Eglwys Gadeiriol yn adeilad hynafol ac urddasol, wedi ei chodi yng Nglyn Rhosin yn y fan lle cododd Dewi Sant ei fynachlog yn 589. Bu eglwys yno wedyn ond ymosodwyd arni droeon gan y Northmyn ("Vikins") a'i llosgi'n llwyr yn 1087. Lladdwyd 2 Esgob ganddynt; Esgob Moregenan yn 999 a'r Esgob Abraham y 1080. Sefydlodd yr Esgob Bernard Eglwys Gadeiriol newydd yn 1131 wedi iddo gael caniat芒d y Pab i wneud Tyddewi yn ganolfan i bererinion yn 1123. Dechreuwyd adeiladu'r Eglwys bresennol yn 1181 ac ychwanegwyd ati yn y drydedd ganrif ar ddeg, yr unfed ganrif ar bymtheg, y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod cyfnod yr Esgob Gower (1328 i 1347) codwyd Palas yr Esgob a rhan o'r Eglwys gadeiriol. Bu rhai digwyddiadau trist yn ei hanes wedyn: 1220 dinistrwyd y t诺r newydd; 1247 siglwyd yr adeilad gan ddaeargryn, 1648 dinistrwyd rhannau tu fewn i'r Eglwys gan filwyr Oliver Cromwell. Mae'r ddau Esgob diwethaf wedi bod 芒 chysylltiadau 芒 Dyffryn Aeron. Bu'r Gwir Barchedig Carl Cooper (yr Esgob presennol) yn ficer yn eglwysi Cilie, Llannerchaeron, Dihewyd a Mydroilyn ac yr oedd y Gwir Barchedig George Noakes, cyn Esgob ac Archesgob Cymru yn un o fechgyn Bwlchllan. 'Roedd e' bob amser yn ymhyfrydu yn y fagwraeth a gafodd yn yr ardal honno.
|