大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Parchedig Enid Morgan At ein Gilydd, Gyda'n Gilydd
Ebrill 2009
Daeth holl gapeli ac eglwysi Dyffryn Aeron (15 ohonynt) ynghyd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi.

Roedd Theatr Felin-fach dan ei sang ar gyfer y gweithdai a gynhaliwyd o 2 hyd 4 o'r gloch a hefyd ar gyfer y gwasanaeth pawb ynghyd i ddiweddu'r prynhawn.

Dechreuwyd a neges fideo oddi with Hywel Teifi Edwards yn ein hannog ni oll i ddiolch i Dewi Sant am weithredu mor drwyadl a thanbaid yn ein patsiyn bach ni o'r byd.

'Mae hanes Dewi yn dangos i ni nad maint y llwyfan' meddai 'sy'n bwysig ond Beth y'n ni'n 'neud ar y llwyfan hwnnw.'

Rhannwyd pawb yn grwpiau wedyn gyda'r Parchg Enid Morgan yn arwain dosbarth Beiblaidd Ar Actau 10 - pennod sy'n canolbwyntio ar berthnasedd efengyl newydd Crist i bawb - yn ddiwahan.

Tra'r oedd Enid yn codi cwestiynau yn y theatr roedd Lyn Ebenezer yn ysgogi trafodaeth ac atgofion yn y Lolfa wrth s么n am farddoniaeth sy'n dathlu Dewi Sant - yn enwedig cerdd Gwenallt.

Ar yr un pryd roedd y Gwndwn yn orlawn o blant yn canu a dawnsio a gwneud dwli yng nghwmni Bili Bom-Bom, Meleri (Planed Plant gynt), Caryl Glyn a Dafydd Iwan.

Wedi dod ynghyd, arweiniwyd gwasanaeth o ddathlu dwys ond hwyliog a llawen dros ben gan y Parchg John Gwilym Jones ( yr Archdderwydd, gynt) y Parchg Enid Morgan a Dafydd Iwan.

Cafwyd canu ysbrydoledig dan arweiniad Heledd Williams, Derwen Gam cyn i'r Parchg Eileen Davies gyhoeddi'r fendith.

Yn ystod y dathlu hwn dadorchuddiwyd logo AT EIN GILYDD, GYDA'N GILYDD (sef yr enw a roddwyd ar y gr诺p a drefnodd y digwyddiad ar ran yr holl gapeli ac eglwysi).

Roedd plant o bob un o ysgolion cynradd y dyfffryn wedi cystadlu, ond Sion Jones (Ysgol Ciliau Parc) a chywaith Ysgol Dihewyd oedd y buddugwyr. Mi fydd y logo terfynol yn cael ei greu trwy gyfuno'r naill gynllun a'r llall. Llongyfarchiadau iddynt - bawb a fu'n cystadlu.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy