大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Llannon O Lesotho i Lannon
Mehefin 2008
Hanes ymweliad M茅 Pamola Mosothoane, athrawes o Ysgol Qaha's Nek, Lesotho 芒 Llannon

Daeth y plant, staff, rhieni a ffrindiau'r ysgol ynghyd ar brynhawn dydd Llun, Ebrill 14eg, i groesawu Me Pamola Mosothoane i'r ysgol. Roedd M茅 Mosothoane ar ymweliad ag Ysgol Llannon fel rhan o gynllun cyfnewid athrawon Cymru a Lesotho a drefnir gan Ddolen Cymru Lesotho. Yn ystod ei harosiad, bu ar wibdeithiau i Aberystwyth, Llyn y Fan, Cronlyn Wysg a Chastell y Bere, ac yn fwy lleol bu i Aberaeron a Chei Newydd. Gan nad oes arfordir i wlad Lesotho, roedd gweld y mor yn brofiad pleserus iawn.

Ar y dydd Llun, bu holl blant yr ysgol dan arweiniad tim brwdfrydig o rieni yn coginio danteithion ar gyfer t锚 prynhawn yn yr ysgol. A dweud y gwir, ychydig o gyfle gafodd y rhieni i arwain gan fod y plant yn gysurus iawn yn eu r么lau fel cogyddion a chogyddesau. Cyn blasu'r bwydydd amrwyiol perfformiodd y plant gyngerdd byr ac yna mwynheuodd pawb y cyfle i sgwrsio dros baned a chavennau.

Teithiodd gr诺p o blant I'r Ardd Fotaneg I wneud cyflwyniad I'r athrawon oedd yn ymweld ag ysgolion yng Ngheredigion, sir G芒r a sir Benfro. Mwynheuodd y plant fod yn rhan o brynhawn pan gyflwynodd plant o ysgolion partner yn y dair sir gyflwyniadau canmoladwy i'r athrawon ar ymweliad 芒 Chymru.

Fel rhan o'r cyflwyniadau bu plant Ysgol Llannon yn darllen cerddi am yr hyn maent wedi ei ddysgu wrth fod yn rhan o'r cysylltiad 芒 Lesotho. Yna buont yn cyfarch yr athrawon yn eu hiaith eu hun sef Sesotho. Cawsant ymateb da iawn gan yr ymwelwyr am eu cyflwyniadau.

Bu M茅 Mosothoane i fferm Di-goed gyda rhai o'r rhieni a'r plant ar ddiwedd un prynhawn a chael cyfle i gynorthwyo gyda bwydo'r wyn swci.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy