大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Ifan Gruffydd G诺yl Gynta'r Cyfarwydd
Mehefin 2005
Bu digwyddiad hanesyddol yn Nyffryn Aeron eleni pan sefydlwyd g诺yl newydd - G诺yl y Cyfarwydd.
Bu mis Ebrill yn fis hanesyddol yn Nyffryn Aeron eleni. Sefydlwyd g诺yl newydd - G诺yl y Cyfarwydd. Cyn yr 诺yl mae'n bosib nad oeddech chi - fel y rhan fwyaf o bobol, fwy na thebyg, yn gyfarwydd 芒'r gair "cyfarwydd". Felly, dyna fan cychwyn yr 诺yl: darlith gan yr Athro Sioned Davies, Prifysgol Caerdydd, ar ystyr a chefndir 'Y Cyfarwydd'.

Yn ei dull rhwydd a bywiog esboniodd i ni mai gwaith y Cyfarwydd slawer dydd oedd diddori a diddannu - a hynny, yn anad dim arall, drwy adrodd stori. Wrth feddwl am straeon mawr yr hen amser ry' ni'n dueddol o feddwl am y Mabinogion - y casgliad aruthrol yna o anturiaethau llawn hud a lledrith a oedd yn s么n am bobol fel Pwyll, Rhiannon, Bendigedfran, Branwen, Blodeuwedd, Culhwch, Olwen ac Arthur a'i farchogion.

Rhan o ddamcaniaeth Sioned oedd nad straeon i'w hadrodd ar un eisteddiad oedd y rhain ond mai dyma operau sebon eu dydd. Heno mi fydden ni'n clywed y rhan hon o'r stori. Nos fory, bydde rhaid dychwelyd i glywed y 'bennod' nesa! Efallai mai dyma siwt y bu i'r straeon ymestyn siwt gymaint (yn yr un ffordd ac y mae straeon heddi yn ymestyn wrth gael eu hail-adrodd o d欧 i d欧, neu o d欧 tafarn i d欧 tafarn!).

Ac o d欧 i d欧, ac o gae i gae y buom yn storia'r ail noswaith pan fu criw o stor茂wyr lleol - Aeron Davies, Felin-fach, Amanda Williams, Talsarn, Stifyn Morgan a Gareth Davies, Trefilan a John Emrys Jones, Cilie Aeron - yn ein tywys a'n diddori 芒 straeon am hanes lleol (Pl芒s y Braenog a Llan Ll欧r yn arbennig); rhai cymeriadau (Doctor Greengrove a Jac Ty-tiler); stori am bobol Talsarn yn gweld toili (ysbryd angladd) ger Gwarallt, Tychrug a hanes doniol gwraig fach yng Nghilcennin a gymerodd gyngor sbengllyd ar iddi fynd i'r diawl' yn llythrennol; roedd hi hanner ffordd i Gilie pan gafwyd gafael arni!

Ar ben Mynydd Tychrug cafwyd egwyl oddi wrth stor茂a wrth i'r bws (trwy drefniant 芒'r Comisiwn Coedwigaeth) fentro'r cwarter milltir o l么n-waith tua brig y mynydd. Roedd yr haul yn diflannu dros y gorwel wrth i griw anturus ddringo i gopa yr uchaf o'r tri chrug a roddodd i'r mynydd ei enw. Yn y fan hon cafwyd wybod mai hen gladdfeydd o Oes yr Efydd yw'r crugiau, yn dyddio'n agos i 2,500 0 flynyddoedd Cyn Crist. Wedi cyfle i lond y bws i rannu straeon dros beint bach yng Ngwesty Tyglyn cafwyd tipyn o hanes iascer Pl芒s y Gelli yn ystod cylch ola'r daith yn 么l i faes parco'r theatr.

Os yw eleni'n fesur dibynadwy bydd angen trefnu bws dou-lawr ar gyfer taith stor茂a'r flwyddyn nesa!

Nos Fercher, nos Iau a nos Wener symudodd yr 诺yl i rannau eraill o Geredigion (Neuadd Cwrtnewydd ar gyfer Straeon Plwyf Llanwenog, Festri Bronant - Straeon y Mynydd Bach, a Neuadd Caerwedros - Straeon Bro Sion Cwilt). Roedd y neuaddau dan eu sang (a nifer o gyfeillion o Ddyffryn Aeron wedi trafaelu o'r naill le i'r llall) a'r stor茂au yn byrlymu fel nentydd a ffynhonau y bencydd a'r caeau.

Bore Sadwrn cynhaliwyd Ysgol y Cyfarwydd yn Nhafarn y Vale. Dyma un o ddigwyddiadau lleiaf yr 诺yl, ond eto dyma un o'r digwyddiadau pwysicaf. Oherwydd, er mai ond hanner dwsin oedd yn bresennol, roedd bob un o'r bobol ifainc hyn yn mynd o'r dosbarth dwy-awr yn awyddus i ddod yn eu h么l i ddysgu rhagor am y grefft o stor茂a. Roedd hyn yn bodloni'r trefnwyr yn fawr gan mai gosod seiliau ar gyfer sicrhau dyfodol traddodiad 'Y Cyfarwydd' o fewn i'n cymunedau gwledig yw n么d pwysicaf yr 诺yl. Dyna pam roedd y stor茂wr proffesiynol Michael Harvey yn gweithio yn ysgolion y sir gydol yr wythnos - yn hau hadau'r dyfodol.

Nos Sadwrn, Ebrill 23, daeth yr 诺yl i ben. Ac fel gweddill yr wythnos, tipyn o arbrawf oedd y noswaith hon hefyd. Noson Lawen gyntefig - anhrefnus, hyd-yn-oed. Roedd gan Ifan Tregaron restr o stor茂wyr, cantorion, offerynwyr a dawnswyr oedd yn bresennol, ond dim byd a oedd yn mynnu trefn. Y nod oedd dilyn hwyl ac ysbryd y noswaith. Ac felly y bu.

Cafwyd straeon am gymeriadau gan Mair Garnon James, Llandudoch ac Alun James (dim perthynas), Cilgerran. Cafwyd hanes teimladwy Desin, Cwmsychbant gan Goronwy Evans, Llambed a chlasur o stori iasoer gan Stanley Lewis, Aberaeron. Cyfranwyd caneuon gwerin gan Beti Davies, Sychpant a Gerallt Owen, Perth-neuadd a dwy faled gan Robyn Tomos, Talgarreg. Daeth Tomi Jones, Penuwch, 芒 swyn arbennig y llif i'n cyfareddu a bu plant Talgarreg a Chaerwedros yn clatsio'r llwyfan yn bert a'u clocs au rhythmau dawnsio gwerin ifanc ac afiaethus.

Ar un adeg roedd y trefnwyr yn amau ai g诺yl i'w chynnal bob yn ail flwyddyn fyddai hi. Bellach, yn sg卯l llwyddiant a brwdfrydedd y flwyddyn gyntaf mae'n bur debyg mai g诺yl flynyddol fydd G诺yl y Cyfarwydd. Ond beth fydd cynnwys g诺yl 2006? Stori arall yw honno!


Cyfrannwch

gwefan Dyffryn Aeron
Mae lluniau o digwyddiadau Gwyl y Cyfarwydd ar http://www.bro251.com/llyfrlluniau/ a http://www.plwyfllanwenog.com/lluniau/


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy