大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
J. M. Edwards J. M. Edwards, Y Telynegwr a'r Bardd Penrhydd
Ebrill 2006
Gwybodaeth am y Telynegwr a'r Bardd enwog o ardal Llais Aeron, J. M. Edwards.

"Ganed Jenkin Morgan Edwards mewn t欧 o'r enw "Royal Diadem" ym mhentref Llanrhystud ac y mae'n amlwg iddo gael magwraeth hapus yno. Bu ei atgofion am y fro honno yn destun llawer o'i gerddi trwy ei oes. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Myfenydd, Ysgol Uwchradd Aberaeron a Choleg y Drindod Caerfyrddin. Dechreuodd farddoni'n ifanc iawn a'r dylanwadau cynnar arno oedd E.O. James, Athro'r Gymraeg yn Aberaeron a'i gyfaill Prosser Rhys. Aeth J. M. Edwards yn athro yn y Barri yn 1935 ac wedi iddo briodi Tydfil, bu fyw yno weddill ei oes ac yno y magwyd eu tri o blant.

J. M. Edwards oedd y mwyaf cynhyrchiol o "Feirdd y Mynydd Bach", cyhoeddodd 9 cyfrol o farddoniaeth rhwng 1924 ac 1976. Ef hefyd oedd y mwyaf llwyddiannus ohonynt mewn eisteddfodau. Enillodd gadeiriau yn ifanc, Eisteddfod Machynlleth ym 1922 ac Eisteddfod Myfyrwyr Cymru yn 1925. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith, ym 1937, 1941 ac 1944.

Mae dwy elfen i'w gerddi. Un yw'r elfen delynegol a thraddodiad y Bardd Gwlad - cerddi am fyd natur, ardal ei fro enedigol, aelodau o'i deulu, ei ffrindiau a'i arwyr. Dotiais ar ei delyneg dlos "Mae llaw y Gaeaf" pan oeddwn yn astudio'r gyfrol "Beirdd Ein Canrif" yn yr Ysgol Uwchradd:

"Mae llaw y gaeaf oer
Yn Cloi pob nant a llyn,
A bysedd bach y coed
I gyd mewn menig gwyn,
A'r adar with y drws
Yn printro'r eira'n dlws".

Cerdd o'r un naws yr "Wrth y Pistyll":

Yng nghysgod llannerch goediog
Di-drai yw'r pistyll gl芒n,
Lle chwery'r awel oediog
A'i ffrwd diferion m芒n,
Hi estyn iddo'i pheraidd r卯n
Gan roi i'w dyfroedd flas y gwin."

Aeddfedodd fel bardd dan ddylanwad beirdd fel R. Williams Parri, Gwenallt, Robert Frost, y'r Americanwr ac eraill. Arweiniodd hyn at yr ail elfen yn ei wtaith, sef y cerddi mwy athronyddol. Mae ganddo amryw o gerddi am amser, gwreiddiau, dylanwad gwyddoniaeth a thechnoleg ar ein bywyd a'r gwrthdaro rhwng y gwerthoedd vsbrvdol, traddodiadol a'r materol. Ei gerdd enwocaf yw "Peiriannau" a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Hen Golwyn ym 1941. Dvma ddetholiad bvr ohoni:

"Nyni yw'r peiriannau,
Chwithau, ddynion, a'n cenhedlodd
o gyfrin groth eich ymennydd,
Gwybyddwch na ddihengwch rhagom
nad oes ffoi o'n crafangau ni.
Eich awydd balch a'n ffasiynodd
i foldio, torri, morthwylio,
Ein hiliogi i ddigoni eich trachwant
a bod byth yn gaethweision i chwi.
Rhwygasoch hen gyrff y mynyddoedd,
prociasoch le t芒n yr heuliau
Amdanom, rhoisoch ddawns i'r atomau
lle gorweddein yn ddirym a mud,
Heddiw mae rhythmau ein dyrnodio
yn eco dros feysydd a dinas,
Nyni ydyw'r meistri bellach,
ystyriwch eich taliad drud.

'Rydym yn hen gyfarwydd a chlywed partlon yn cyd-adrodd y darnau rhythmig hyn:

"Malu...malurio...malurio...malu
Drwy'r hirnos,
Mae'r olwyn ar olwyn rhythmig, trosol ar drosol.
Dallwn eich dinasoedd a siglwn bileri'r cread,
A'n inept rhwygwn y nos yn ddwy,
Cronwn eich afonydd canys nid oes a wneloch hebom."

A ninnau sy'n dibynnu ar ein peiriannau am ein bywyd beunyddiol a'r cyfrifiaduron sy'n trefnu ein bywydau ac sy'n gwybod gymaint amdanom:

"Gwyliwch na ddelo'r dydd tyngedfennol
Y cipiwn eich holl nerth...
Nyni yw'r peiriannau...Nyni."

Erthygl gan W. D. Ll.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy