Planhigion Alpaidd ydyn' nhw wedi goroesi ers Oes yr I芒. Mae'r ddau ohonynt i'w gweld yn aml yn lochs yr Alban ond maen nhw'n llawer prinnach yng Nghymru. Gwelir nhw yn Llyn Idwal yn Eryri yn ogystal ag yn Llyn Eiddwen.
Bidoglys y d诺r (Water Lobelia) yw enw'r un cyntaf. Gwelir llawer ohonynt yn tyfu yn y d诺r bas yn Llyn Eiddwen yn niwedd Gorffennaf ac ym mis Awst. Mae clwstwr o ddail (rosette) yn tyfu ar y cerrig ar waelod y llyn ac o'u canol nhw t欧f coesyn y blodau hyd tua 6 modfedd uwchben y dwr. Mae blodau eiddil ar ben y coesau yma a byddant yn nodio eu pennau yn yr awel leiaf. Ar yr olwg gyntaf blodau gwynion ydyn' nhw ond wedi sylwi'n fanwl mae arlliw o liw lelog (lilac) arnynt a lliw'r lafant (lavender) yng nghanol pob blodyn. Mae petalau'r blodyn fel dwy wefus - mae'r wefus uchaf wedi rhannu'n ddwy ran a'r wefus isaf wedi rhannu'n dair rhan. Gair diddorol yw'r hen air bidog. Yn 么l Geiriadur Prifysgol Cymru mae'n golygu cleddyf cwta (dagger, poniard, bayonet).
Mynawydlys dyfrdrig (Awlwort) yw enw'r ail blanhigyn. Mae hwn yn blanhigyn prinnach eto a dim ond unwaith y medrais dynnu llun ohono ar Lyn Eiddwen. Mae e'n anodd i'w weld am ei fod yn tyfu o dan y d诺r ac erbyn hyn nid yw fy llygaid i mor graff ag y buon nhw. Mae clwstwr o ddail hirion yn tyfu o'r bonyn ar waelod y llyn. Mae blaen y dail yn finiog iawn a phlygant tuag i lawr. Mae blodau bychain iawn gyda 4 petal wen yn tyfu o ganol y dail.
Hen air diddorol yw Mynawyd hefyd. Yn 么l Geiriadur Prifysgol Cymru golyga offeryn pigfain i dyllu pren neu ledr, defnyddid ef yn arbennig gan gryddion. Yn Saesneg - awl, bradawl, bodkin.
Enwir rhai o flodau'r genws Geranium yn Mynawyd y Bugail gan arddwyr a naturiaethwyr. `Rwyf bron yn si诺r iddynt gael yr enw hwn am fod eu ffrwythau yn debyg i si芒p mynawyd (bradawl).
|