'Mewn amser o newid, y newid o'r analog i'r digidol, o'r broses i'r cysyniad, mae'n bwysig bod rhaglenni arddangosfeydd yn adlewyrchu'r newid creadigol hwnnw'- dyna a geisir ei wneud mewn arddangosfa deithiol a ddatblygir rhwng MAC (Canolfan arddangos ym Mirmingham) a Marlene Little.
Teitl yr arddangosfa yw "Depth of Field'. Pwrpas y cyfan yw darganfod a choleddi'r newid yma drwy'r cyswllt sy' rhwng ffotograffiaeth a thecstiliau.
Ymhlith nifer o bobl fydd yn arddangos eu gwaith bydd Heledd Jones o Lanaman.
Mae gwaith Heledd wedi ei selio'n ddwfn yn nhir Cymru ac mae adlewyrchiad o'i chynefin yn Nyffryn Aman i'w weld yn ei gwaith. Mae'n gyfuniad diddorol o ffotograffiaeth a thecstiliau a gwaith llaw diddorol iawn.
Os am drip ewch i weld yr arddangosfa. Fe fydd yn MAC, Cannon Hill Park, Birmingham, B12 9QH rhwng Ionawr 21 a Mawrth 19 yn Lighthouse, Poole, Dorset rhwng Mehefin 3 a Gorffennaf 29, Harley Gallery, Welbeck Nottinghamshire rhwng Medi 4 a 23 o Hydref ac yn Q Arts, Derby rhwng Tachwedd a Ionawr 2007.
Rwy'n si诺r y cawn glywed rhagor o s么n am Heledd a'i gwaith ac arddangosfa yng Nghymru a Dyffryn Aman cyn hir. Pob dymuniad da iddi.
|