大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Glo M芒n
Elin FFlur. Tynnwyd y llun hwn yng Ng诺yl Dinefwr 2007. G诺yl Hwyl dyffryn Aman
Gorffennaf 2007
Cafwyd penwythnos arbennig yng Nglanaman yn ddiweddar wrth i'r 糯yl Hwyl gael ei chynnal ar gae rygbi'r Aman.

Cafwyd digwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan ac er gwaetha'r glaw, fe fentrodd nifer fawr o bobl allan i fwynhau gwledd o weithgareddau ac atyniadau. Yn dilyn llwyddiant G诺yl Hwyl 2006 a gafodd ei sefydlu gan bwyllgor o wirfoddolwyr Clwb Rygbi'r Aman roedd eleni'n dipyn o sioe gyda nifer o weithgareddau at ddant pawb.

Eleni, bu'r clwb a Menter Bro Dinefwr yn cydweithio ar y trefniadau a braf oedd gweld y berthynas yn datblygu gyda phenwythnos hynod o lwyddiannus. Ar y nos Wener, cynhaliwyd disgo ar gyfer plant Ysgol y Bedol o dan arweiniad Menter Bro Dinefwr, a hyfryd oedd gweld tua chant a hanner o blant yn dawnsio i gerddoriaeth fodern a Chymraeg a phob un wedi mwynhau'r noson. Yn y babell ar y cae rygbi, cynhaliwyd cinio Clwb Rygbi'r Aman yng nghwmni Mervin Davies.

Cafwyd ocsiwn lwyddiannus a pherfformiad unigryw ac arbennig gan y diddanwr Billy Davies. Bu'r noson yn llwyddiannus iawn a hoffai'r clwb ddiolch yn fawr i bawb a fynychodd am eu cefnogaeth.

G诺yl Rygbi i blant dan wyth oed oedd uchafbwynt dydd Sadwrn gyda 8 o dimau yn cymryd rhan a phob un yn brwydro am le yn y rownd derfynol. Y ddau d卯m a ddaeth i'r brig oedd Cefneithin a Phontiets gyda Chefneithin yn ennill. Ym mhen arall y cae, cynhaliwyd sioe geffylau a chafwyd reidiau ffair gyda nifer o bobl yn mynd adref 芒 physgodyn aur! Cafwyd cerddoriaeth gan fand pres Gwaun Cae Gurwen a gwerthwyd raffl er mwyn ennill p锚l rygbi wedi ei harwyddo gan unrhyw un o'r t卯mau rhanbarthol.

Carem ddiolch yn arbennig hefyd i Rhys Jones a holl staff Uned Ieuenctid y Cyngor Sir am drefnu i ddod 芒 wal ddringo i'r cae yn ogystal 芒'r Sgarlets a'r Gweilch am gyfrannu gwobrau ar gyfer y raffl.

Cafwyd sioe arbennig iawn ar y nos Sadwrn wrth i Elin Fflur a'r Band, The David Millie Band ac Amheus ddiddanu cynulleidfa o tua cant a hanner o bobl ac roedd yn wych i weld cymaint o bobl ifanc yr ardal yn mwynhau.

Daeth y gweithgareddau i ben ar y dydd Sul gyda thwrnament p锚l droed ar y cae rygbi. Bu sawl t卯m yn cystadlu'n frwd ac wedi'r rownd derfynol rhwng Aman Unedig a th卯m Cwmaman, t卯m yr Aman ddaeth i'r brig.

Wrth i'r cystadlu dynnu at ei derfyn cafwyd adloniant yn y babell gan G么r Meibion Dyffryn Aman a pherfformiad unigryw gan Eifion Price a Ceri Jones o'r gr诺p poblogaidd Jac y Do. Gwerthwyd tocynnau raffl yn ystod y prynhawn gyda Wyn Jones yn ennill p锚l rygbi o'i ddewis wedi ei harwyddo. Cyflwynodd ei wobr i'r clwb fel rhodd. Carwn ddiolch yn arbennig iddo gan y bydd y b锚 yn cael ei gwerthu mewn ocsiwn gyda'r elw yn mynd at y Clwb.

Gyda'r hwyr daeth yr 糯1 i fwcwl gydag adloniant gan Fand Karl Nottingham. Bu'r 糯l yn llwyddiant ysgubol a braf yw geld perthynas agos yn datblygu rhwng Menter Bro Dinefwr a Chlwb Rygbi'r Aman. Hoffai staff y Fenter ddiolch o galon i staff y clwb ac i'r holl wirfoddolwyr am y croeso cynnes a estynnwyd yn ystod y cyfnod o dan sylw.

Edrychwn ymlaen at 糯yl lwyddiannus yn 2008!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy